Mae Sara Moseley yn trosglwyddo’r baton fel arweinydd academaidd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol i’r Athro Justin Lewis yr wythnos hon. Wrth iddi ddod yn Gyfarwyddwraig i Mind Cymru, fe edrycha’n ôl ar yr hyn sy’n gwneud newyddiaduraeth gymunedol mor bwysig.
Pwysigrwydd newyddiaduraeth gymunedol yng Nghymru
Fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Lywodraeth Cymru o’r flwyddyn 2000 ymlaen, un o’r heriau diffiniol oedd ymgysylltu gyda phobl ym mhob rhan o’r wlad. Wrth i ddatganoli ddatblygu, roedd mwy a mwy o benderfyniadau’n dod yn agosach at adref. Mae diffyg cyfryngau cenedlaethol go iawn – heblaw am ddarlledu – yn gwneud newyddion lleol a chymunedol yn hanfodol bwysig yma. Ond, fel pob man arall, roedd gan rai gwerthfawr yr adnoddau i fynd i’r afael â gwneud penderfyniadau, yn arbennig ar lefel leol. Felly, cryfhaodd fy niddordeb mewn newyddiaduraeth gymunedol, hyperleol a lleol – galwch beth bynnag a fynnoch – canys fy argyhoeddiad i oedd bod ganddi rôl hanfodol i’w chwarae mewn cymdeithas gyfrifol, iach a democrataidd.
Bryd hynny, rwy’n cofio cynnal briff ar y cyd ar gyfer uwch weision sifil ac academyddion o Brifysgol Caerdydd gyda’r Athro Justin Lewis, a oedd ar y pryd yn Bennaeth Ysgol i’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddem yn glir am yr angen i ymgysylltu ymhell y tu hwnt i’r amheuon arferol. Yn wir, pan ddaeth yr amser i gynnal sgwrs â phobl Cymru ynglŷn â roi rhagor o bwerau deddfu, roedd pob cymuned, ‘papur bro’ a ffynonellau newyddion cymunedol eraill yn hanfodol.
Dod i Brifysgol Caerdydd
Felly, roeddwn wrth fy modd pan gefais y cyfle i ddod i Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd ar secondiad i ddatblygu mentrau newydd, yn cynnwys y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, yn 2013. Rwyf wedi cael modd i fyw. Yn ddiweddar ysgrifennais am y newidiadau rydym wedi’u gweld mewn newyddiaduraeth gymunedol yn ystod yr amser hwnnw. Mae yna fwy o gydnabyddiaeth ar bŵer a photensial newyddiaduraeth hyperleol nag erioed o’r blaen. Caiff hyn ei gefnogi’n rhannol gan ystadegau sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer sianelau digidol a thrwy gydnabod mai dyma yw un o’r ffyrdd gorau i gynnal sgwrs ynglŷn a’r hyn sy’n digwydd yn lleol.
Cryfder mewn rhifau
Ond gyda hynny daw’r angen i gael llais cryfach i bleidio am bolisïau a chymorth ariannol ac i ddal ein tir ochr yn ochr â grwpiau cyfryngau rhanbarthol traddodiadol. Mae llawer o’r ail yn gwneud pethau diddorol ac arloesol ar-lein. Ond tra eu bod yn denu cynulleidfaoedd newydd, nid oes ganddynt o reidrwydd yr ystod a’r dyfnder i ymwneud â gwybodaeth leol, cynhesrwydd, mewnwelediad a chysylltiadau rwyf wedi’i brofi drosodd a throsodd ymysg newyddiadurwyr cymunedol. Ac nid oes ganddynt yr ymrwymiad a’r angerdd am le a phobl sy’n dod o fod yn perthyn a gwybod.
Ond i fod yn hyfyw economaidd – ac nid yw pob hyperlocalwyr eisiau gwneud arian o bell ffordd – ymddengys i mi fod yna addewid gref mewn bandio gyda’n gilydd. Mae dadansoddiadau safonol gwell a mwy am gyrraedd cynulleidfa a lefelau ymgysylltu; pecynnau ar gyfer hysbysebu a nawdd sy’n ymgorffori ardaloedd llawer mwy; sicrhad o reoli ansawdd a glynu at set o safonau golygyddol; derbyniadau ystafell gefn a rennir – gall y rhain i gyd fod mor werthfawr. Gobeithiaf yn fawr iawn gall C4CJ chwarae rôl ganolog yn y gwaith o gefnogi newyddiadurwyr yn y dyfodol ynghyd â Nesta, Talk About Local, Carnegie UK Trust ac eraill. Rwy’n gobeithio mai’r canlyniad fydd sector newyddion cymunedol ffyniannus sy’n cyfoethogi ardaloedd unigol ac yn dod at ei gilydd i greu argraff ledled y Deyrnas Unedig.