Yn ystod y 18 mis diwethaf, fy swyddogaeth ar brosiect ’Cyfryngau, Cymunedau a’r Dinesydd Creadigol’ oedd arwain y darn o ymchwil i werth cyhoeddi hyperleol yn y Deyrnas Unedig. Heb or- ddweud, bu’n gyfnod wirioneddol brysur.Mae 12 mis arall yn weddill ar y prosiect, ond mae’n werth ystyried lle’r ydym, a beth ydym wedi ei gyflawni?
Gyda thîm academaidd cryf o Brifysgolion Caerdydd a Dinas Birmingham (lle’r wyf wedi fy lleoli), a chymorth gwych gan ein dau bartner allanol, Talk About Local a Ofcom, rydym wedi dechrau cael syniad clir ynghylch pam fod hyperleol o bwys.
Daw’r syniad hwnnw i’r amlwg o’r gwaith ymchwil rydym wedi ei wneud wrth geisio deall graddfa, cwmpas a phriodoleddau hyperleol. Dangosodd fy ymchwil fy hun wrth geisio canfod faint o safleoedd sy’n bodoli, a pha mor aml maen nhw’n cyhoeddi, bod llawer mwy yn digwydd yn ddiarwybod i bobl (stori bob ‘dwy funud’).
Roedd ein dadansoddiad cynnwys, dan arweiniad Dr Andy Williams, wedi dadlau bod dinasyddion yn cael llais ar y llwyfannau hyn, yn fwy nag yn y wasg draddodiadol, o bosibl. Fel y dywedodd Andy yn ei adolygiad: “Rydym yn gwybod bod cynulleidfaoedd safleoedd hyperleol yn cael llawer o wybodaeth a allai fod o werth dinesig, mewn egwyddor.”
Gwelsom hefyd pa mor werthfawr yw’r hyperleol hwnnw i’r bobl sy’n ei gynnal. Mae ein dwy astudiaeth achos yn Cannock a Birmingham wedi’n cyflwyno i bobl sy’n awyddus iawn i adrodd straeon am y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, ar eu hyperleol.
Pan aeth y tîm ymchwil i gyfarfod blynyddol Talk About Local ym mis Medi, roedd eu brwdfrydedd yn amlwg, er nad oedd gwobr ariannol i’w chael amdano. Gofynnais i’r dirprwyon o bob cwr o’r Deyrnas Unedig: beth yw anghenion digidol, dynol, corfforol neu berthnasol ‘asedau’ gwefan hyperleol?
Fel y gellid disgwyl, cafwyd atebion angerddol iawn. Yn wir, dyma oedd y prif reswm pam fod y grŵp hwn yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud. Yr un mor bwysig oedd: dyfeisgarwch, ffrindiau, teulu, wifi o safon, sgiliau digidol (neu ffrindiau oedd â sgiliau o’r fath) a pherchennog eich tafarn leol yn hel clecs (neu ffynonellau straeon defnyddiol eraill).
Wrth i ni ddod at ran olaf ein hymchwil, mae gennym holiaduron ac arolygon ar y gweill. Rwy’n awyddus ein bod yn cyfleu’r angerdd hwn yn ein hadolygiad o’r gwaith ymchwil. Hebddo, byddai’r olygfa hon sy’n datblygu’n debygol o ddiflannu. Ond wrth geisio gwneud synnwyr ohoni, cawn gyfle i gyfleu ei gwerthoedd i gynulleidfa ehangach o lunwyr polisi a chyllidwyr, sydd am weld cyfryngau cyfoethocach, gyda gwerthoedd democrataidd a dinesig yn ganolog iddo.
Anthony Easton sy’n berchen ar hawlfraint y llun sy’n cyd-fynd â’r postiad hwn