Un o’r pethau yr wyf yn eu cofio am Etholiad Cyffredinol 1997 oedd taro ar ymgeisydd un o’r prif bleidiau mewn seler gwrw. Roedd yr ymgeisydd i fod ar yr awyr ar y pryd, yn cymryd rhan mewn trafodaeth fyw ar gyfer yr orsaf radio leol fechan yr oeddwn yn gweithio iddi.
Mewn sgwrs fer daeth yn amlwg yn fuan iawn ei fod yn teimlo bod cyfarfod anffurfiol gyda chriw o fyfyrwyr yn well defnydd o’i amser.
Hynny yw, nes i mi ei berswadio i anelu am y cab agosaf …
Degawd a hanner yn ddiweddarach roeddwn yn gobeithio bod y math hwn o ddigwyddiad yn perthyn i’r gorffennol. Ond ai felly y mae hi?
Mae enghreifftiau diweddar o Brixton Blog and Bugle, Sutton Coldfield Local, WV11, Kings Cross Environment, Wolves on Wheels, Birmingham Eastside ac eraill yn awgrymu nad yw rhai gwleidyddion yn gweithio gyda’u cyfryngau lleol.
Dyma enghraifft amlwg o golli cyfle. Mewn cyfnod pan fo aelodaeth pleidiau gwleidyddol a’r nifer sy’n bwrw pleidlais ar lefel isel, mae haen newydd o gyfryngau’n gyfle i wleidyddion o bob plaid ymgysylltu â’u darpar etholwyr fwy nag erioed o’r blaen.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai safleoedd hyperleol fod yn ffynhonnell ddefnyddiol i bleidiau gwleidyddol.
Ac mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod cyhoeddwyr yn ystyried cyhoeddi erthyglau gwleidyddol a chymunedol, felly dylai ymgeiswyr fanteisio ar y cyfle.
Yn ôl ymchwil a gyflwynwyd y llynedd gan Dr Andy Williams yng Nghynhadledd Newyddiaduraeth Gymunedol 2013 Prifysgol Caerdydd, o blith 313 o wefannau gweithredol, y math hwn o gynnwys oedd i gyfri am bron i chwarter y straeon a oedd yn cael eu cyhoeddi.
A hyd yn oed heb y sylfaen empiraidd hon, mae cipolwg ar ambell wefan gymunedol yn dangos lefel y ffocws sydd gan nifer ohonynt ar faterion cymunedol – a gwleidyddol.
Felly beth yw’r rheswm dros y diffyg cysylltiad hwn?
Mae technoleg wedi ei gwneud yn haws nag erioed o’r blaen i dargedu cymunedau penodol, boed yn gymunedau diddordeb neu leoliad penodol.
Dylai’r ffaith fod gwefannau hyperleol a gorsafoedd radio cymunedol yn ymddangos – ynghyd â rhwydweithiau cymdeithasol, blogiau a chyfryngau eraill – olygu nad oes angen poeni bellach am ddiffygion democrataidd. Eto i gyd nid felly y mae hi.
Ai difaterwch gohebwyr ynteu ddifaterwch ymgeiswyr yw hyn?
Gan fod nifer fawr o gyfryngau ar gael bellach, mae’n bosibl bod negeseuon yn cael eu dosbarthu rhwng gormod ohonynt. Efallai bod yn well gan bleidiau gwleidyddol ganolbwyntio eu sylw ar brif gyfryngau a’u sianelau cymdeithasol eu hunain yn hytrach na’r rhai sy’n cael eu harwain ar lawr gwlad.
Hefyd efallai bod ymgeiswyr difater yn llai gweladwy mewn ffynonellau newyddion sy’n rhoi sylw i nifer o wardiau ac etholaethau a’u bod yn gweithredu fwy fel plaid. Meddai WV11 “Dydym ni erioed wedi gweld [y papur newydd lleol] yn cysylltu ag ymgeiswyr unigol i greu proffil ohonynt”.
Neu efallai fy mod yn gwneud cam â gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol, ac nad oes unrhyw un yn gofyn iddynt gyfrannu cymaint ag a gredwn.
Yn ôl ymchwil Williams “dim ond tua hanner y sampl oedd ag unrhyw ffynonellau yn eu herthyglau [canfyddiad] a allai fod ag oblygiadau o ran: tryloywder, lluosogrwydd ac ansawdd y drafodaeth gyhoeddus leol,” yn arbennig o ystyried y ffaith mai dim ond tua 3 y cant o’r rhai a samplwyd a “oedd yn cynnwys unrhyw fath o anghytuno”.
Yr hyn sy’n aneglur yw a yw cyhoeddwyr yn gofyn am y mewnbwn hwn, ac yn methu â chael ymateb, neu a yw’n benderfyniad bwriadol gan y golygyddion.
O ystyried bod nifer o safleoedd yn cael eu rhedeg gan nifer fach o wirfoddolwyr, efallai nad oes digon o oriau mewn diwrnod i gael gafael ar y math hwn o fewnbwn.
Y naill ffordd neu’r llall, o ystyried maint a diddordeb y gynulleidfa sydd gan nifer o ffynonellau hyperleol, mae’n siomedig ei bod yn ymddangos bod rhai pleidiau gwleidyddol yn gochel rhag defnyddio’r llwybrau hyn i gysylltu â’r gymuned.
Beth yw eich profiad chi o hyn?
Ydych chi wedi ceisio – ac wedi methu – cael mewnbwn gan wleidyddion a phleidiau gwleidyddol lleol? Ydych chi wedi gweld gwahaniaeth wrth ddelio â chynrychiolwyr lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd? Ydi agweddau wedi newid dros amser?
Postiwyd y blog hwn yn wreiddiol ar Online Journalism Blog. Darllenwch y post gwreiddiol i gynnig eich sylwadau, neu defnyddiwch @paulbradshaw a @damianradcliffe wrth drydar i rannu eich profiadau.
Mae hawlfraint y llun gyda’r erthygl hon yn eiddo i Wayne Large.