Mae South Leeds Life yn flog newyddion hyperleol a ddechreuodd tua thair blynedd yn ôl. Rydym yn rhoi sylw i ran anffasiynol o’r ddinas, gallwch ddiffinio’r ardal ar sail dau god post, neu dair ward cyngor. Rydym yn eithaf balch ein bod wedi denu 10,000 o ymwelwyr y mis i ddarllen ein blog.
Ni chynhaliwyd etholiadau’r cyngor y llynedd yn Leeds, felly mae dwy flynedd ers ein hetholiad diwethaf. Yn 2012 roedd nifer ein darllenwyr a’n dylanwad yn llawer llai. Rhoesom sylw i’r etholiad lleol, ond canolbwyntiwyd ar bwysigrwydd pleidleisio a beth mae cynghorwyr yn ei wneud. Cyhoeddwyd rhestr syml o ymgeiswyr ar gyfer pob ward gan roi eu henwau a’u plaid.
Gydag etholiadau lleol Ewrop ym mis Mai roeddem yn meddwl y byddai’n gyfle i ni wneud yn well y tro hwn a helpu’r broses ddemocrataidd yr un pryd.
Un o’r sylwadau a gawsom yw nad yw ein darllenwyr yn gwybod pwy yw’r ymgeiswyr a dros bwy y maen nhw’n sefyll. Nid yw taflenni’n cael eu danfon neu maen nhw’n mynd ar goll yng nghanol y post papurach ac yn cael eu taflu’n syth i’r bin. Dydw i ddim yn gallu cofio pryd oedd y tro diwethaf i ganfasiwr guro ar fy nrws. Nid ein problem ni’n unig yw hon, mae sylfaen weithgar yr holl bleidiau wedi diflannu ac ar ben hyn mae ein tair ward yn seddau cymharol ddiogel, felly mae adnoddau’r pleidiau’n cael eu defnyddio ar gyfer wardiau mwy ymylol yn y ddinas.
Felly penderfynwyd rhoi llwyfan ar South Leeds Life i’r ymgeiswyr. Yn amlwg mae angen i ni fod yn deg a rhoi’r un faint o sylw i bob ymgeisydd, felly byddwn yn creu tudalen ar y wefan i bob ward, gan restru’r ymgeiswyr a’u gwahodd i anfon neges destun, lluniau a fideo trwy’r post.
Byddwn yn anfon yr un gwahoddiad at bob ymgeisydd yr un diwrnod, unwaith y bydd y Cyngor wedi cyhoeddi’r rhestr ymgeiswyr ac rydym wedi gosod uchafswm ar nifer y geiriau a hyd fideos.
Rydym hefyd yn gobeithio cynnal hystingau. Rwyf wastad yn teimlo bod angen esbonio’r term hwn gan fod yr arfer wedi peidio â bod. Cyfarfod cyhoeddus yw hysting lle mae pleidleiswyr yn gallu clywed ymgeiswyr yn siarad ac ateb cwestiynau. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am sefydliadau tebyg i ni i’n helpu i drefnu’r cyfarfodydd.
Mae South Leeds Life wedi rhoi sylw erioed i straeon am ein cynrychiolwyr lleol. Efallai nad yw’n Watergate, ond rydym yn credu ei fod yn bwysig bod ein darllenwyr yn gweld bod eu Cynghorydd a’u AS yn ymgysylltu â’r gymuned leol hyd yn oed pe bai ond i agor adeiladau ac ymweld ag ysgolion.
Fis Tachwedd diwethaf, cytunodd Hilary Benn i ysgrifennu colofn fisol i ni. Er ei bod wedi cael croeso ar y cyfan, nid oedd rhai o’n darllenwyr yn gefnogol gan honni mai propaganda i’r blaid Llafur oedd hi. Cawsom drafodaeth yn yr adran sylwadau a cheisiwyd gwahaniaethu rhwng rhoi sylw i gynrychiolwyr etholedig mewn swydd a rhoi sylw ychwanegol yn ystod ymgyrch etholiadol. Felly bydd gennym gyfnod ‘purdah’ yn ystod yr ymgyrch i sicrhau tegwch i bawb.
Rydym yn gyffrous ynglŷn â’n dull o ymdrin â’r etholiadau hyn. Teimlwn ein bod yn manteisio ar gryfderau blog hyperleol, ac yn manylu mwy oherwydd ein ffocws lleol. Dydw i ddim yn gwybod a fyddwn ni’n cael effaith ar y canlyniad, neu hyd yn oed nifer y pleidleiswyr, ond byddwn yn monitro faint o bobl sy’n ymweld â’r tudalennau ar yr etholiad ac yn cymharu nifer y pleidleiswyr â wardiau eraill mewn dinasoedd yn Leeds.
Mae’r llun gyda’r erthygl hwn yn eiddo i Gyngor Dinas Coventry.