Nid oes dim byd sy’n well gen i na chyfweliad radio da. I mi mae yna agosrwydd ar y radio nad ydych yn ei gael gyda chyfryngau eraill. Mae’n hawdd cael eich ysgubo ymaith gan y radio pan rydych wedi ymgolli’n llwyr yn lleisiau a straeon y cyfranwyr. Mae’r radio yn rhywbeth llawer mwy na dim ond sŵn yn y cefndir tra rydych yn golchi llestri, mae ganddo’r pŵer i’n trawsffurfio, ein hysbrydoli a’n galluogi i ddefnyddio ein dyfeisiadau ein hunain i greu delweddau allan o’r hyn rydym yn ei glywed.
Rwyf wastad wedi mwynhau’r genre cyfweliad diwylliannol, o raglen Fresh Air ar Radio Cyhoeddus Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau i raglen Front Row y BBC. Llwydda’r cyflwynwyr i gael y bregusrwydd rydym yn dyheu i’w glywed gan y bobl greadigol sy’n ein difyrru gyda’u ffilmiau, celf, dramâu, comedïau a ffurfiau celfyddydol eraill. Rydym eisiau clywed am y camgymeriadau, yr hanes tu ôl i’r gwaith a’r heriau y gwnaethant eu hwynebu wrth greu eu campweithiau. Mae pawb ohonom eisiau’r hanes o lygad y ffynnon, a phan mai llais yr unigolyn yw’r unig beth sydd gennym, mae’r profiad yn un llawer mwy personol.
Serch hynny, nid yw’r darllediadau hyn sydd wedi’u cynhyrchu’n dda a’u cyllido’n helaeth yn rhoi’r pictiwr llawn o’r hyn sy’n digwydd yn y sîn ddiwylliannol heddiw. Tybiaf y gallech ddweud mai megis crafu’r wyneb y mae’r rhaglenni hyn. Mae yna adegau pan glywch yr un cyfarwyddwr yn cael ei gyfweld ar nifer o wahanol raglenni ar wahanol orsafoedd radio mewn un wythnos ac am y rheswm HWN yn union yr oeddwn eisiau creu’r Culture Show ar gyfer Radio Dwyrain Llundain. Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r sîn ddiwylliannol annibynnol ers sbel ac roeddwn yn teimlo bod angen rhywle i roi sylw i artistiaid llai confensiynol. Rhywle i’r artistiaid hyn drafod eu taith greadigol nhw. Ar y Culture Show, rwyf wedi clywed dramodwyr yn trafod yr hyn a’u hysbrydolodd nhw i ysgrifennu eu drama gyntaf ar gyfer theatr ymylol leol, gwneuthurwr ffilmiau indie yn chwerthin yn nerfus wrthi iddi esbonio’r anawsterau i gael cefnogaeth ariannol a dynes a ddechreuodd ei chwmni ei hun i hyfforddi pobl ifanc oedd newydd adael cartrefi gofal i actio ac ysgrifennu eu dramâu eu hunain. Mae gan y bobl hyn frwdfrydedd pur ac mae clywed eu hanes yn parhau i fy ysbrydoli i!
Gall radio cymunedol gyrraedd llefydd na all y cwmnïau radio mawr eu cyrraedd. Mae’n gallu cefnogi gwyliau celfyddydol ymylol sy’n ymddangos yn ein cymdogaethau, fel Gwŷl Leytonstone, y mae Radio Dwyrain Llundain yn un o’i phartneriaid cyfryngau’r, neu gyfarwyddwyr newydd ar ddechrau eu gyrfa, fel y bobl ifanc oedd y tu ôl i wŷl ffilmiau Cutting East yn Tower Hamlets.
Mae safleoedd a llwyfannau hyperleol yn yr oes ddigidol yn debyg i’r hyn oedd papurau newydd lleol ar droad y ganrif. Mae popeth i weld yn symud mor gyflym ar hyn o bryd ac mae’n gallu teimlo’n llethol ar brydiau! Ond, pan rydym yn arafu ychydig ac yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar ein stepen drws ein hunain, gall roi synnwyr o gymuned i ni a’n helpu i ailgysylltu â’r hyn sy’n digwydd rŵan hyn! Mae cael cofnodi hanes y mudiadau diwylliannol llai mewn dinas fel Llundain yn bleser pur, ac fe fyddwn ni ar Radio Dwyrain Llundain yn parhau i wneud hyn gyda brwdfrydedd a theimlad (dim ond gobeithio y byddwch chi’n gwrando!).
Mel Palleschi yw Cyfarwyddwr Creadigol Radio Dwyrain Llundain, a gallwch wrando arni’n cyflwyno’r rhaglen London Culture Show ar www.EastLondonRadio.org.uk
Mae Radio Dwyrain Llundain yn fenter gymdeithasol nid-er-elw. Cafodd ei dewis yn un o astudiaethau achos ymarfer gorau o ran gwirfoddoli yn y diwydiannau creadigol gan Creative Skillset.