Aethom heibio i garreg filltir pum can stori yn EastGrinsteadOnline.com yn ddiweddar. Mewn deufis yn unig, roedd tîm bach wedi ysgrifennu, golygu a chyhoeddi’r nifer yma o straeon am y gymuned fach leol. Teimlem ein bod yn gallu gwireddu syniad neu riportio digwyddiad, a chael llun wedi’i greu’n bersonol i gyd-fynd â’r stori. Y cwbl wedi ei olygu ar liniadur cyffredin yn unig, a’i gyhoeddi i bawb ei gweld, mewn munudau.
Ni theimlodd hunan-gyhoeddi erioed mor bwerus a hygyrch. Am rai punnoedd neu ddoleri, gall unrhyw un sefydlu gwefan a rhannu eu meddyliau, a’u syniadau neu roi eu creadigaethau artistig arni, hyd yn oed. Wedi i mi ddewis WordPress i gyhoeddi’r safle newyddion, teimlais mai gwaith hawdd iawn oedd ychwanegu fideos, orielau lluniau a chlipiau sain ato, er mwyn bywiogi fy erthyglau, ac yn bennaf oll, i fod yn wahanol i’r papurau newydd a fu’n brif gyfrwng newyddion lleol y dref, hyd hynny.
Wedi fy ysbrydoli gan gwrs newyddiaduraeth yn y gymuned Prifysgol Caerdydd, a’r awydd i ddefnyddio’r offer digidol a ddeuai’n fwy poblogaidd a derbyniol gan y brif-ffrwd, pan awgrymodd fy nghydweithiwr a golygydd y dylem fynd ati i greu safle, cynigiais i helpu’n syth.
Ymddangosai’n amharchus bron o’r papurau trwm niferus sydd i’w gweld ym mhob siop bapur ledled y wlad, wrth awgrymu mai’r cwbl sydd ei angen arnoch er mwyn cystadlu â nhw yn y seiberofod, a’r byd go iawn yw brwdfrydedd, cysylltiad â’r rhyngrwyd, sgiliau gwe sylfaenol, a’r gallu i ganfod ac ysgrifennu stori newyddion rymus.
Roedd blynyddoedd lawer o brofiad fy mhartner fel newyddiadurwr a’m mhrofiad innau yn y diwydiant rhyngrwyd, o’n plaid. Roedd WordPress yn gwbl ddieithr i mi, ac ychydig a wyddwn am Blogger. Gwyddwn mai WordPress oedd cyfrwng dewis y rhan fwyaf o flogwyr, felly dyma fi’n mentro arni a sefydlu safle WP.com ar gyfer ein babi newydd.
Awr neu ddwy yn ddiweddarach, roedd gennym rywbeth a edrychai’n broffesiynol iawn, O’n blaen roedd cynfas wag y gallem fwrw’n syniadau arni a rhoi help llaw i bobl o’n cwmpas, heb wybod, hyd yn oed nawr am yr antur fechan roeddem ar fin ei lansio, yn cofnodi lle maen nhw’n byw. Yn fuan, ysgrifennwyd cronfa o straeon, ac roedd gennym dri neu bedwar diwrnod o bostiadau wedi’u hamserlennu. Ymhen rhai diwrnodau, byddai cynfas wag y wefan yn barod i fynd yn fyw. Crëwyd safleoedd cyfryngau cymdeithasu ac fe’u dolennwyd. Ymddangosodd ein straeon cyntaf, ar yr un pryd ar Twitter, Facebook a Google Plus.
Y Dywysoges Anne yn derbyn tusw o flodau mewn llun diweddar a gyhoeddwyd gan East Grinstead Online.
Er nad yw’n anodd adnabod eich ardal leol os buoch yn byw ynddi’n ddaearyddol am lawer o flynyddoedd, mae yna gyfoeth o straeon dynol i’w cael o hyd, heb i chi wybod amdanyn nhw, pa mor dda bynnag rydych chi’n credu eich bod yn adnabod rhywle. Yn sydyn, daeth syniadau am straeon bron yn wirfoddol. Roeddwn yn cyfweld chwaraewyr hoci proffesiynol dros e-bost neu’n gofyn i awdur comics beth oedd ei ysbrydoliaeth i ddarlunio ac ysgrifennu. Addawodd yr aelod seneddol lleol ei gefnogaeth. Cryfhawyd cysylltiadau gwan â’r dref a manteisiwyd arnyn nhw’n fel bachau ar gyfer erthyglau nodwedd a chyfweliadau. Yn sydyn, roedd East Grinstead yn gyforiog o actorion, cantorion, awduron, cogyddion, arlunwyr, mabolgampwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn trenau. Buom yn gohebu’n ddi-dor a thrylwyr ar ymweliad Brenhinol diweddarpan ymwelodd y Dywysoges Anne â’r dref i ddadorchuddio cerflun o’r arwr lleol, Syr Archie McIndoe. Roedd e’n arloeswr mewn llawdriniaethau cosmetig yn ystod ac wedi’r rhyfel. Gelwid ei gleifion yn Foch Cwta. Yn ddiweddarach, gofynnodd y BBC a RAF News am ein lluniau er mwyn ychwanegu at eu hadroddiadau nhw.
Roedd angen grŵp ehangach bobl ar frys er mwyn diogelu safon ac amlder ein postiadau, felly daeth Twitter yn gyfrwng pwysig i ganfod straeon newydd a gwirfoddolwyr i helpu’r ddau ohonom. Fe recriwtiwyd colofnydd bwyd wythnosol, tynwyr lluniau, adolygydd theatr a rhywun i roi gogwydd ifanc i ni. Dewisais ohebu ar chwaraeon, a phan wnes i gyfweld perchennog bragdy bach lleol gwirfoddolais fel gohebydd cwrw. Yna, gan gadw’r straeon hwyliog i mi fy hun, ysgrifennais adolygiad ar leoliad sioe gabare newydda agorodd ar y stryd fawr. Mae’n syndod bod rhai lluniau o sioe bwrlésg sefydlog y fonesig Rosy Apples, wedi ennyn y fath ddiddordeb ymysg darllenwyr. Beth a’ch denodd gyntaf at yr erthygl yma?
Mae ein safle ar fin cyrraedd 10,000 ymweliad “unigryw” y mis, sy’n sylweddol o gofio mai ryw 26,000 yn unig yw poblogaeth y dref. Mae’n anghredadwy mai ond rai misoedd yn ôl roedden ni’n gwylio fideos o’r cwrs ar-lein ac yn clywed astudiaethau achos o fannau mor agos i gartref â Brixton neu’r Gymru wledig ac mor egsotig ag ardal Mission, San Francisco. Ond nawr, rwy’n gwybod bod gennym rywbeth sy’n gyffredin iawn â’r cymdogaethau amrywiol yma. Rydym yn ysgrifennu am yr hyn a wyddom am y dref ac mae ei phobl yn hoffi’r hyn rydym yn ei ysgrifennu amdanynt. Yn ei dro, rydym yn deall ein hardal yn well ac yn cyfarfod â’n cymuned. Mae cymeriadau cyfoethog stori, fel hon rydych yn ei darllen nawr ar eich gliniadur neu sgrin iPad yn peri i ni gyd ddod yn agosach at ein gilydd.
Cyhoeddwyd y blog yma’n wreiddiol ar Linkedin gan Barney Durrant. Darllenwch y postiad gwreiddiol yma. Sabrina’s Stash sy’n berchen ar hawlfraint y llun