Mae’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru, yn dechrau ar y gwaith o sefydlu hyperleol newydd yn Nhreorci. Yn ystod mis Hydref, mae’r theatr mewn cyfnod preswyl yn theatr y Parc a Dâr. Am fwy o wybodaeth am sut fedrwch chi gymryd rhan? Darllenwch fwy…
A oes gennych ddiddordeb mewn newyddion a barnau lleol? Ydych chi’n teimlo y dylid clywed llais lleol yn y Rhondda? Ydych chi wedi meithrin talent i ysgrifennu, yn dyheu am wneud ffilmiau, tynnu lluniau neu gyfryngau digidol? Hoffech chi wybod beth sy’n digwydd ac am ei rannu? Hoffech chi fod yn rhan o fenter newydd i greu newyddion a rhoi gwybodaeth i’ch cymuned?
Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yma i’ch helpu. Byddwn yn darparu’r hyfforddiant, y gwaith datblygu a’r cymorth. Rydych yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn adrodd y straeon.
Bydd ein cyfarfod cyntaf ddydd Iau, 10 Hydref, rhwng 6 a 7pm. Am ragor o wybodaeth, neu i fod yn rhan o dîm o newyddiadurwyr ymroddedig ac angerddol yn y gymuned, ffoniwch Emma neu Hannah ar 029 208 70101, neu anfonwch e-bost at Emma [email protected] neu Hannah [email protected].