Mae cronfa o £100,000, i gefnogi newyddiaduraeth er lles y cyhoedd ymhlith cyhoeddwyr annibynnol yng Nghymru, wedi dyfarnu ei saith grant cyntaf. Mae’r cyllid wedi cael ei darparu gan Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.
Mae’r Cronfa Newyddion er Lles Y Cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion lleol a pherthnasol yn ogystal a hyrwyddo twf yn y sector newyddion cymunedol Cymreig.
Bydd y cyllid, sy’n cynnwys grantiau o hyd at £8,000, yn mynd tuag at dalu cyhoeddwyr am eu hamser yn cynhyrchu newyddion cymunedol er lles y cyhoedd.
Mae’r saith derbynnydd yn cynnwys Caerphilly Observer, Cwmbrân Life, Deeside.com, Llanelli Online, My Welshpool, Wrexham.com a safle Cymraeg Golwg 360.
Yn ogystal â mwy o straeon am gynghorau a llysoedd lleol, bydd y grant hefyd yn ariannu mwy o ffyrdd o gasglu newyddion lleol wrth mynd â fan newyddion i leoliadau cymunedol, rhoi mwy o ffocws ar faterion lleol a threialu mwy o gynnwys fideo er mwyn ymgysylltu â phobl iau.
Mae’r grant yn cael ei hwyluso gan Ping! News CIC – cwmni buddiannau cymunedol sy’n cael ei redeg gan Rhwydwaith Cymunedol Annibynol Cymru (Independent Community News Network (ICNN)) a datblygwr o Fryste, Omni Digital. Nod Ping! yw cefnogi cynaliadwyedd yn y sector newyddion cymunedol annibynnol.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr ICNN, Matt Abbott: “Rydym yn falch iawn o allu helpu i gefnogi’r Sector Newyddion Annibynnol yng Nghymru a’r gwaith hanfodol y mae’n ei wneud.
“Mae newyddiaduraeth annibynnol yn hanfodol ar gyfer gwasanaethu cymunedau heb digon o gynrychiolaeth ac er mwyn ychwanegu plwraliaeth i eco-system cyfryngau Cymru.
“Bydd y saith llwyddiannus yma yn dosbarthu nifer o brosiectau amrywiol gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth o newyddion er lles y cyhoedd yng Nghymru ac yr ydym yn gyffrous i weld yr effaith a gânt.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae cyfryngau cadarn ac annibynnol yn un o bileri hanfodol democratiaeth iach, ac mae newyddion cymunedol lleol yn rhan bwysig o hynny. Rwy’n falch iawn o weld y rhai cyntaf a dderbyniodd Gronfa Newyddion Budd Cyhoeddus Cymru yn cael eu cyhoeddi ac yn gyffrous i weld eu heffaith.
“Rwy’n annog cyhoeddwyr eraill i wneud cais am arian ac ymuno â’r bennod newydd gyffrous hon mewn newyddion cymunedol!”
Mae pob derbynnydd yn gyhoeddwr sydd wedi’i leoli yng Nghymru ac sy’n cyrraedd safonau derbyn ICNN.
Mae’r Gronfa £100,000 Newyddion er Lles y Cyhoedd yng Nghymru hefyd yn cynnal dwy ffrwd ariannu arall – un wedi’i anelu at newydd-ddyfodiaid, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a’r llall yn gronfa ariannu brys ar gyfer cyhoeddwyr presennol. Mae manylion llawn am y cynllun ar gael ar www.pingnews.uk.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â gweinyddwr y grantiau John Baron ar [email protected] neu ffoniwch 07446 968140.