Cwmpas
Nod y prosiect hwn yw cymryd un o wefannau hyperleol Caerdydd, sef Pobl Caerdydd, a’u helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u cynulleidfa bresennol a’u darpar gynulleidfa, yn ogystal ag ymgynghori â’r cynulleidfaoedd hynny i ddarganfod pa fath o gynnwys y buasen nhw’n hoffi ei weld ar eu gwefan gymunedol hyperleol. Cyn trafod sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, mae’n werth manylu ynglŷn â chefndir y prosiect a rhoi ychydig o wybodaeth am Bobl Caerdydd.
Cefndir
Yng Nghaerdydd mae tua 38,000 o siaradwyr Cymraeg, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt o dan 45 oed. Nid oes unrhyw brif gyfryngau Cymraeg yn cael eu cynhyrchu’n lleol, ac mae’r gymuned hon yn gorfod dibynnu’n bennaf ar ffynonellau sy’n gwasanaethu Cymru gyfan, fel S4C, BBC Cymru a Golwg 360.
Mae gan siaradwyr Cymraeg Caerdydd ffynhonnell newyddion gymunedol, sef papur bro Y Dinesydd. Daeth y bobl sy’n gyfrifol am bapur Y Dinesydd ar y cyd â staff yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol at ei gilydd gan ymrwymo i ddarparu newyddion ac arweiniodd hyn at safle Pobl Caerdydd. Lansiwyd y gwasanaeth newydd hwn yn haf 2013.
Gan mai gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar y wefan Pobl Caerdydd nid ydynt wedi cael llawer o gyfle i wneud unrhyw ymchwil strwythuredig manwl, ar wahân i’r sesiynau allgymorth tra bod y bwrdd golygyddol a’r cyfranwyr wedi bod yn datblygu’r hyn y mae’r gynulleidfa bresennol a’r ddarpar gynulleidfa yn awyddus i’w gynnwys ar y safle. Yn ei hanfod, safle yw hwn lle mae cynhyrchwyr hyperleol yn gweithio o dan gyfyngiadau tyn o ran amser, ac yn gorfod blaenoriaethu’r cynnwys ar draul ymgynghori ac ymgysylltu â’u cymuned/cynulleidfa.
Am Pobl Caerdydd
Cynhelir yr ymchwil mewn cydweithrediad â Phobl Caerdydd, sef y safle cyntaf mewn rhwydwaith arfaethedig o safleoedd hyperleol Cymraeg. Nod y safleoedd hyn yw cefnogi’r grŵp cyfryngau cymunedol sy’n cynhyrchu papurau newydd yn y Gymraeg sydd wedi bodoli yng Nghymru ers 1973.
Y Canlyniadau y Bwriedir eu Sicrhau
I gyflawni nodau’r prosiect, bydd cyfres o gyfweliadau lled-strwythuredig yn cael eu cynnal gyda chynhyrchwyr hyperleol, newyddiadurwyr sy’n gysylltiedig â safleoedd hyperleol, a rheolwyr ymgynghori â’r gymuned o sectorau eraill i gael cipolwg ar y cynulleidfaoedd. Mae hyn yn cynnwys y ffordd orau i ymgynghori â nhw, adeiladu’r gymuned, annog pobl i gymryd rhan mewn safleoedd hyperleol a sicrhau cynaliadwyedd hyperleol. Yna bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei defnyddio i gynnal arolwg o ddarpar gynulleidfa a chynulleidfa bresennol Pobl Caerdydd i helpu’r gymuned hyperleol i ddeall eu cynulleidfa, pwy ydyn nhw, a pha gynnwys y bydden nhw’n hoffi ei weld.
Yna bydd y data a gesglir o’r ddau ymarfer hwn yn cael ei ddefnyddio i greu dwy set o allbynnau. Y set gyntaf yw canllawiau penodol i Bobl Caerdydd i’w helpu i gasglu, deall a gweithredu ar ddata am y gynulleidfa, yn ogystal â chanllawiau ar y ffordd orau i barhau i ymgysylltu â’r gynulleidfa a sut i annog y gynulleidfa i symud oddi wrth aelodau’r gynulleidfa i gyfranwyr hyperleol.
Mae a wnelo’r ail allbwn â thempled cyffredinol y bydd safleoedd hyperleol eraill yn gallu ei ddefnyddio wrth ymgynghori â’u cymunedau i ganfod beth maen nhw ei eisiau gan eu safle hyperleol. Bydd hyn yn cynnwys canllaw electronig i ddadansoddi data am y gynulleidfa a chanllawiau pellach ar sut i gadw cysylltiad â’r gynulleidfa ac eto, annog pobl i gyfrannu.