I lwytho copi o’n canllaw i lawr: cliciwch yma.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae cyfryngau cymdeithasol ar-lein wedi arwain at newidiadau mawr yn y modd rydym yn cyfathrebu gyda’n gilydd fel ffrindiau, cymdogion, dinasyddion a defnyddwyr. Mae offer fel Facebook, Twitter, Youtube, a Flickr wrth gwrs, wedi ysgogi sefydliadau i gyfathrebu gyda phobl mewn gwahanol ffyrdd hefyd. Bellach mae gweithwyr proffesiynol fel newyddiadurwyr, hysbysebwyr, gwleidyddion, a phobl Cysylltiadau Cyhoeddus yn ceisio “ymgysylltu” â’r cymunedau maen nhw’n ceisio dylanwadu arnyn nhw yn rheolaidd drwy sgwrsio â nhw, a meithrin deialog ymysg y bobl hynny a oedd yn cael eu hystyried yn flaenorol fel eu cynulleidfaoedd.
Mae nifer o ganllawiau wedi’u cynllunio i helpu gweithwyr proffesiynol yn y byd marchnata i ddefnyddio strategaethau ymgysylltu ar-lein ac all-lein i gynyddu gwerthiant a gwella incwm. Mae llawer llai wedi’u hysgrifennu i helpu’r bobl hynny â nodau mwy allgarol, cymunedol neu ddinesig eu bryd (eithriad nodedig ywConnected: The power of modern community, sef e-lyfrbyr wedi’i ysgrifennu gan Marc Thomas, Hannah Waldram, ac Ed Walker, sy’n ysbrydoli ac yn ddefnyddiol). Hyd y gwyddom, nid oes canllawiau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cynhyrchwyr newyddion yn y gymuned.
Yn ystod ein hymchwil academaidd ar newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig, dywedodd llawer o gynhyrchwyr wrthym eu bod yn dymuno neilltuo mwy o’u hamser i fonitro ffigyrau eu cynulleidfa ac ymgysylltu ymhellach gyda’u cymunedau o ddarllenwyr. Er enghraifft, yn ôl ein harolwg o newyddiadurwyr cymunedol yn y Deyrnas Unedig, dywedodd 28% o’r ymatebwyr wrthym eu bod yn dymuno gwneud mwy o waith ymgysylltu yn y gymuned.
Dywedodd llawer wrthym hefyd eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt y wybodaeth a’r profiad i wneud hyn yn iawn. Felly, penderfynom geisio helpu drwy gyfweld newyddiadurwyr cymunedol a chyfathrebwyr proffesiynol sydd â llawer o brofiadau perthnasol yn y maes yn barod, a distyllu’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym mewn canllaw hwylus.
Mae’n ceisio helpu cyhoeddwyr newyddion yn y gymuned i adnabod, ymgysylltu, a chynnal cysylltiadau gyda, a rhwng pobl yn eu cymunedau. Mae wedi’i selio ar 19 o gyfweliadau gydag ymarferwyr ac arbenigwyr gwefannau cymunedol yn y Deyrnas Unedig ac America, yn ogystal â nifer o ganllawiau sy’n bodoli’n barod am y cyfryngau cymdeithasol, marchnata, a rhedeg gwefannau cymunedol. Mae’r canllaw hefyd yn cyfeirio at yr wybodaeth rydym wedi’i chael drwy astudio newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig fel rhan o brosiect ymchwil 2 flynedd a olygai ddadansoddiad helaeth o gynnwys newyddion hyperleol, yr arolwg mwyaf erioed gan gynhyrchwyr newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig , a 37 o gyfweliadau pellach ag ymarferwyr.
Mae’r canllaw wedi’i rannu’n dair rhan yn seiliedig ar feithrin cymunedol ac egwyddorion ymgysylltu o wrando, ymgysylltu a monitro.
Rhan 1 – mae “gwrando” yn cyfeirio at strategaethau ar gyfer sefydlu gwefan gymunedol, darganfod cynulleidfa, a dechrau meithrin cymuned o amgylch gwefan.
Rhan 2 – mae “ymgysylltu” yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymuned, ar-lein ac oddi arno. Mae’n ymdrin â phynciau megis y gwaith o gynhyrchu cynnwys sy’n ymgysylltu, defnyddio achosion i gynhyrchu cynnwys a denu cymuned, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ennyn dioddordeb cynulleidfa.
Rhan 3 – mae “monitro” yn amlygu ac yn ystyried pa offer y gellid ei defnyddio i ddadansoddi sut mae gwefan gymunedol a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio, a manylion ynghylch sut i ddefnyddio’r ystadegau a gynhyrchwyd orau.
Yn sicr fe ganfyddom yr angen am ganllaw fel hwn wrth weithio â chynhyrchwyr newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig. Darganfyddom hefyd fod llawer o newyddiadurwyr cymunedol yn bobl prysur iawn a bod amser yn brin yn aml. Er enghraifft, roedd ein harolwg yn dangos fod 72% o newyddiadurwyr cymunedol yn credu fod prinder amser yn eu rhwystro rhag ehangu eu gwaith. Bydd y rhan fwyaf o’r awgrymiadau, y cynghorion a’r triciau a drafodwyd yn y canllaw hwn yn cymryd amser ac ymdrech i’w rhoi ar waith. Bydd rhai yn cymryd mwy o amser ac ymdrech nac eraill.
Ond daw’r holl gyngor rydym wedi’i nodi gan bobl sydd wedi meddwl yn ofalus am eu gwaith ymgysylltu yn y gymuned, ac maen nhw wedi profi ac wedi cynnal arbrofion gyda llawer o declynnau a thechnegau. Gobeithiwn drwy amlygu eu harbenigedd a chrynhoi eu storïau y gallwn arbed ychydig o’ch amser yn y pen draw.
Fodd bynnag nid rhestr o reolau anodd a llym yw’r ganllaw hwn. Ni fydd gan rhai cynhyrchwyr newyddion yn y gymuned unrhyw ddiddordeb yn yr awgrymiadau hyn; efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n gweld ambell un yn ddefnyddiol; efallai bydd eraill yn dysgu llawer. Os ydych wedi cael blas ar yr hyn rydych wedi ei ddarllen, mae croeso i chi anfon y ddolen hon ymlaen. Os nad yw’r wybodaeth wrth eich bodd, cysylltwch â ni i ddweud pam.
I lwytho copi o’n canllaw i lawr: cliciwch yma.
Joe Cable ac Andy Williams