Cyhoeddwyd adroddiad ar yr arolwg mwyaf erioed o gynhyrchwyr newyddion hyperleol yn y DU.
Ym mis Tachwedd y llynedd, lansiodd tîm o ymchwilwyr rwy’n ymwneud â nhw arolwg o gynhyrchwyr newyddion cymunedol hyperleol. Roeddem am gael gwybod pa fath o newyddion mae safleoedd hyperleol yn eu cynhyrchu, pa rolau democrataidd y gallai eu newyddion chwarae, a pha mor llwyddiannus a chynaliadwy yw’r gwasanaethau newyddion yma, mewn gwirionedd.
Cwblhaodd 183 o bobl yr arolwg – y mwyaf o’i fath erioed yn y DU. Mae rhifau a chanfyddiadau wedi cael eu dadansoddi, ac mae’r adroddiad bellach yn barod i’w gyhoeddi. Gellir ei lwytho i lawr yma, mewn fformat PDF, neu ei wylio ar-lein. Mae sawl canfyddiad yn yr adroddiad am ei fod yn empiraidd iawn, ond dyma rai o’r darnau mwyaf diddorol, yn fy marn i.
Credasom ei bod yn bwysig dysgu am bwy sy’n cynhyrchu newyddion cymunedol, a sut maen nhw’n disgrifio’u gwaith. Gwelsom fod y sector newyddion cymunedol yn y DU wedi hen ennill ei blwyf. Y cynhyrchwyr mwyaf blaenllaw yw’r rhai sydd wedi bod yn cynhyrchu newyddion ers dros dair blynedd, a bron i draean ers dros bum mlynedd)
Cred saith o bob deg cynhyrchydd o ran eu gwaith, eu bod yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Mae dros eu hanner yn ei weld yn benodol fel newyddiaduraeth leol, a dros eu hanner fel mynegiant o ddinasyddiaeth weithredol. Yn ddiddorol, mae ymron i hanner ein cyfranogwyr wedi cael hyfforddiant newyddiadurol neu brofiad o weithio, mewn rhyw fodd, yn y cyfryngau prif-ffrwd.
Hefyd, yn ganolog i’r ymchwil roedd chwilio am trendiau mewn cyhoeddiadau newyddion cymunedol lleol. Gwelsom fod safleoedd newyddion cymunedol yn ymdrin â newyddion lleol amrywiol iawn, a gallai fod iddo werth dinesig a diwylliannol. Mae’n cynnwys llawer o newyddion am grwpiau a digwyddiadau cymunedol lleol, a materion llywodraeth leol, yn arbennig cynllunio. Wrth lenwi’r bylchau yn yr ymchwil a adawyd gan waith dadansoddi cynnwys newyddion hyperleol cynharach, gwelsom fod llawer o newyddiadurwyr cymunedol yn cynhyrchu newyddion am ymgyrchoedd ac archwiliadau: mae ymron i dri chwater yr ymatebwyr wedi mynd ar drywydd ymgyrchoedd lleol a ysgogwyd gan eraill. Mae tipyn dros draean wedi ysgogi eu hymgyrchoedd eu hunain; (materion yn ymwneud ag anghytundebau cynllunio, toriadau i wasanaethau cyhoeddus, gwelliannau i amwynderau lleol ac atebolrwydd cynghorau lleol ydynt yn bennaf. Er gwaethaf diffyg cymorth yn aml gan sefydliadau a phobl broffesiynol, mae lleiafrif sylweddol hefyd wedi ymdrin â newyddiaduraeth warchodol, ymchwiliol, leol.
Dysgom rai gwersi defnyddiol am gynulleidfaoedd hyperleol a sut mae cynhyrchwyr yn rhyngweithio â nhw. Mae gan dros draean y cynhyrchwyr newyddion hyperleol wybodaeth am ystadegau cynulleidfaoedd sylfaenol o ran eu safleoedd, tebyg i ymwelwyr unigryw misol, ac ymweliadau â thudalennau. Mae diffyg amlygrwydd yn eu cymunedau eu hunain yn nodweddu’r rhan fwyaf y safleoedd, a dim ond ychydig iawn sy’n cyrraedd canran uchel o’u cynulleidfaoedd lleol posibl. Er gwaethaf y diffyg amlygrwydd, mae mwyafrif helaeth y cynhyrchwyr newyddion hyperleol yn dal i weld twf cynulleidfaoedd ar eu gwefannau eu hunain, ac ar brif lwyfannau cyfryngau cymdeithasu. Yn gyffredinol, mae yna grŵp bychan o safleoedd newyddion cymunedol sy’n perfformio’n dda yn cyrraedd cynulleidfaoedd arwyddocaol. Cofnodir rhwng 10,000 a 100,000 “unigryw” bob mis. Ond cynulleidfa cymharol fach sydd gan y rhan fwyaf (canolrif yr ymwelwyr “unigryw” misol yw 5039). Mae naw o bob deg cynhyrchydd yn defnyddio Twitter a 79 y cant yn defnyddio Facebook ar gyfer eu gweithgareddau newyddion cymunedol.
Mae’r cwestiwn pa mor gynaliadwy yw newyddion hyperleol yn economaidd, yn parhau’n ddilema. Mae tua thraean o’n cyfranogwyr yn gwneud elw, y rhan fwyaf ohonynt yn symiau gweddol gymedrol: Dywedodd 12 y cant eu bod yn gwneud llai na £100 y mis, er enghraifft, ond dywedodd 13 y cant eu bod yn gwneud dros £500 y mis. Sut maen nhw’n gwneud yr arian yma? Hysbysebion yw prif ffynhonnell eu hincwm, ond mae cael erthyglau nodwedd wedi’u noddi ac arian grant hefyd yn creu incwm. Mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr newyddion cymunedol yn ariannu costau cynnal eu safleoedd o’u pocedi eu hunain, ond mae tua un o bob pedwar yn codi digon o arian i dalu’u costau, neu fwy. Er gwaethaf canran isel y cynhyrchwyr newyddion cymunedol sy’n llwyddiannus yn economaidd, barn naw o bob deg yw y gallan nhw ddal i gynnal, neu gynyddu eu cynnyrch presennol, yn ystod y flwyddyn i ddod. Nid elw economaidd sy’n ysgogi rhan fwyaf y cynhyrchwyr. Maen nhw’n hapus yn parhau i weithio fel gwirfoddolwyr. Ond erys y ffaith y gallai diffyg cyllid fygwth dyfodol cyhoeddiadau hyperleol. Dywedodd llawer o bobl wrthym os na allent ddal i weithio ar eu safleoedd yn y dyfodol, byddai’r gwasanaethau newyddion yn cau, o bosibl.
Wedi’r cyfan, gweithio’n rhan-amser ar eu safleoedd y mae rhan fwyaf y cynhyrchwyr newyddion cymunedol; mae 57 y cant yn gweithio hyd at ddeg awr yr wythnos, 26 y cant yn gweithio rhwng 11 a 30 awr; lleiafrif sy’n gweithio’n llawn amser, ac 11 y cant yn gweithio dros 40 awr yr wythnos. Mae llawer o weithrediadau casglu newyddion cymunedol yn ymdrechion cyfranogol a chydweithredol, felly mae angen i ni hefyd gael syniad o gyfanswm yr oriau mae pobl yn gweithio, gan gynnwys gwaith cefnogwyr a/neu weithwyr eraill. Gan gynnwys y gwaith a wneir gan aelodau eraill y tîm, mae dros bedwar safle o bob deg (43 y cant) yn gynnyrch ychydig iawn o oriau a weithiwyd (deg awr neu lai, bob wythnos). Mae’r gwaith y gweddill yn cymryd llawer o amser, gyda thrydedd yn gweithio 21-50 awr ar gyfartaledd bob wythnos, a chwarter dros 50 awr.
Wrth edrych tua’r dyfodol, ac er gwaethaf y newyddion diflas am gynaliadwyedd economaidd, mae wyth o bob deg ymatebwr yn bwriadu ehangu eu safleoedd. Byddai llawer yn hoffi postio’n amlach, defnyddio mwy ar gynnwys amlgyfrwng, a chasglu rhagor o ddeunydd gan eu cynulleidfaoedd. Nodwyd mai’r meysydd datblygu mwyaf cyffredin oedd gwybodaeth leol a gohebu ar grwpiau a digwyddiadau cymunedol. Heb gyfyngiadau ar amser nac arian, ac er mwyn gwella’u safleoedd, y prif feysydd i’w targedu oedd; problemau technegol yn ymwneud â gwefannau; mwy o gysylltu â chynulleidfaoedd ar gyfryngau cymdeithasu; gwerthu hysbysebion a chreu incwm; meithrin cymuned fwy o gyfranwyr gweithgar. Ond mae rhan fwyaf o newyddiadurwyr cymunedol o’r farn bod eu hamser yn brin. Dywedodd bron i dri chwarter mai prinder amser sy’n eu rhwystro rhag ehangu yn y dyfodol. Pe bai cymorth ar gael, dywedodd chwech o bob deg y bydden nhw’n hoffi cael cymorth gyda chreu incwm i ariannu eu hamser eu hunain, ac i farchnata a hyrwyddo’u safle er mwyn chwyddo’u cynulleidfaoedd. Byddai eu hanner yn hoffi cael cymorth gyda gwerthu hysbysebion.
Llwythwch yr Adroddiad Hyperlocal i lawr.
Canlyniad cydweithio rhwng dau brosiect gwahanol a ariannwyd gan AHRC yw’r adroddiad hwn: prosiect Y Cyfryngau, y Gymuned a’r Dinesydd Creadigol wedi’i leoli ym Mhrifysgolion Caerdydd a Dinas Birmingham; a’r prosiect Grym y Cyfryngau a Lluosogrwydd, wedi’i leoli ym Mhrifysgol Westminster. Fe’i hysgrifennwyd gan Dr Andy Williams o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Steven Barnet a Judith Townend o Brifysgol Westminster, a Dave Harte o Brifysgol Dinas Birmingham. Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r prif awdur, Dr Andy Williams (e-bost: [email protected], @llantwit ar Twitter).
Mae hawlfraint y llun hwn yn perthyn i brianac37.