Prosiect Storini: Cyfoethogi Cynnwys a Galluogi Cymunedau i Rannu a Chyhoeddi eu Straeon eu Hunain
Cyflwyniad
Trwy’r Deyrnas Unedig, mae tystiolaeth helaeth o awydd parhaus am wybodaeth a newyddion lleol. Mae pobl eisiau gwybod beth sy’n digwydd yn eu cymunedau eu hunain ac maen nhw’n gwneud defnydd cynyddol o dechnolegau digidol a symudol er mwyn cael gwybodaeth. Wrth i hen fodelau busnes wanhau, mae llai o newyddiadurwyr ar lawr gwlad yn casglu straeon lleol da. Yma yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, rydym wedi gweld yr anawsterau y mae papurau newydd lleol a chymunedol yn eu hwynebu i gael llif cyson o straeon o safon dda i fodloni disgwyliadau’r gynulleidfa a chadw eu diddordeb. Dyma sut yr aethom ati i weithio gyda phartner busnes creadigol i ddod o hyd i ateb yn seiliedig ar dechnoleg a seicoleg ymddygiadol yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid ymchwil i REACT. Mae Storini yn ffordd unigryw o gynnwys cymunedau yn y broses o greu eu newyddion a’u cynnwys eu hunain a chyfrannu at ganolbwyntiau newyddion lleol bywiog a dynamig. Bellach, mae Storini ar ffurf Beta, ac mae’n cael ei threialu gan newyddiadurwyr cymunedol yng Nghymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n dangos bod potensial i gael newyddion, barn a lluniau o ffynonellau torfol i raddau helaeth.
Sector sy’n tyfu
Yn ôl adroddiad Ofcom 2013 ar y farchnad:
“Mae’r defnydd o ffynonellau cyfryngau lleol ar-lein wedi cynyddu mwy dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda bron i hanner yr ymatebwyr (49%) yn honni eu bod yn defnyddio mwy ar y rhyngrwyd i gael gwybodaeth a newyddion lleol. Mae tua phedwar o bob deg yn honni eu bod yn defnyddio mwy ar wefannau/apiau newyddion lleol (41%) a gwefannau/apiau cymunedol lleol (38%) o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchu nifer o bwyntiau allweddol. Yn gyntaf – cyflymder y newid o’r naill flwyddyn i’r llall a’r cyfle yn ei sgil. Yn ail – yr ymateb gan gyhoeddwyr papurau newydd traddodiadol sy’n prysur ddigido eu gweithrediadau (ac ar yr un pryd yn lleihau nifer y newyddiadurwyr sy’n gweithio ar lawr gwlad wrth i’r refeniw hysbysebu ostwng). Yn drydydd – mae darparwyr a ffurfiau newydd o ddarparu newyddion lleol a chymunedol yn ymddangos.
Rhoddir sylw hefyd i’r galw am newyddion hyperleol – hynny yw, gwasanaeth sy’n gysylltiedig â thref, pentref neu god post – yn adroddiad Ebrill 2013 Nesta ‘UK Demand for Hyperlocal Media ’. Dangoswyd bod 45 y cant o oedolion y Deyrnas Unedig wedi cyrchu rhyw fath o newyddion hyperleol, gyda’r rhan fwyaf yn gwneud hynny o leiaf bob wythnos. Dangoswyd bod y diddordeb hwn yn cael ei ysgogi gan ddefnydd cynyddol o ddyfeisiau symudol, fel llechi a ffonau clyfar, sydd â mynediad at wybodaeth ffeithiol fel y newyddion, y tywydd, ac mai’r gwasanaeth lleol sy’n bennaf gyfrifol am ei ysgogi. Mae hyn yn ei amlygu hefyd, ac mewn mwy o fanylder, gan yr ymchwil ar gynnwys a natur newyddiaduraeth hyperleol sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd a Birmingham.
Mae ein profiad ein hunain yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd wedi dangos bod potensial enfawr o fewn y sector cynyddol hwn i gael gafael ar newyddion, barn a’r math o ddeunydd cymdeithasol, diwylliannol a pholisïau sy’n bwysig i rymuso a chydlynu cymunedau. Rydym yn gwybod trwy siarad a gweld gwaith ffynonellau newyddion cymunedol lleol bod cael gafael ar wybodaeth leol mewn ffordd ddefnyddiol y gellir ei phrofi’n allweddol. Y cwestiwn yw tybed a oes modd sianelu’r defnydd helaeth o gyfryngau cymdeithasol a digidol at ddefnydd personol i greu newyddion cymunedol a lleol cyfochrog ac a fyddai’n bosibl defnyddio gwefannau hyperleol fel gofod cyffredin ar ei gyfer. Dyma oedd sail prosiect ymchwil yn dilyn cais llwyddiannus i React, sy’n ariannu prosiectau cydweithredol rhwng ymchwilwyr y celfyddydau a’r dyniaethau a chwmnïau creadigol. Mae’r prosiectau cydweithredol hyn yn hyrwyddo’r broses o gyfnewid gwybodaeth, arbrofi diwylliannol a datblygu technolegau digidol arloesol yn yr economi greadigol.
Tarddiad Storini
Gan weithio gyda chanolbwynt hyperleol ar garreg ein drws, ceisiwyd creu model digidol cynaliadwy i gasglu newyddion lleol.
Gan archwilio ymddiriedaeth, enw da a chymhelliad, defnyddiodd yr asiantaeth greadigol Behaviour a Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd seicoleg ymddygiadol i archwilio sut i ysgogi pobl leol i ddod yn newyddiadurwyr, gan wneud y dasg o ymhél â newyddion lleol yn bleser.
Mae’r llwyfan a ddatblygwyd yn sgil hyn – Storini – bellach ar ffurf Beta yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Trwy gyfrwng Storini mae cymunedau yng Nghaerdydd a Phort Talbot wedi gallu cael lluniau, ymateb, newyddion a sylwadau, a’u rhannu am y tro cyntaf erioed. Mae’n dal ar ffurf Beta gaeedig, ond mae ar fin gael ei dreialu ymhellach yn y Rhondda ac Aberystwyth.
Y Cychwyn
Ardal drefol ar y cyfan yw Port Talbot yn Ne-orllewin Cymru gyda phoblogaeth o 139,000. Mae traddodiad o ddiwydiannau trwm yma, ond mae yma hefyd forlin ac ardaloedd gwledig hardd. Yn 2009 daeth y ddau bapur newydd lleol a wasanaethai’r ardal i ben. Mewn ymateb i hyn, daeth grŵp o newyddiadurwyr a thrigolion lleol at ei gilydd i sefydlu menter gymdeithasol i weld sut y gellid cynhyrchu a rhannu newyddion lleol. Dangosodd eu hymchwil fod 88% o ymatebwyr Port Talbot yn awyddus i gael gwasanaeth newyddion lleol a maes o law sefydlwyd Port Talbot Magnet. Mae’n cael ei gyhoeddi ar-lein, mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol i lwyfannu a rhoi sylw i ddigwyddiadau lleol gyda chyfraniad gan y gymuned ehangach. O’r cychwyn mae wedi bod yn gysylltiedig â’r Ysgol Newyddiaduraeth (JOMEC) ym Mhrifysgol Caerdydd fel safle sy’n hyrwyddo ac fel adnodd i ddysgu a rhwydweithio.
Mae’r Magnet yn cael ei chreu a’i chyhoeddi gan bobl leol i bobl leol i lenwi bwlch a diwallu angen. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys yn cael ei greu gan dîm craidd o newyddiadurwyr gwirfoddol a’r nod tymor hir yw codi digon o refeniw hysbysebu i greu swyddi. Caiff trigolion a defnyddwyr eu hannog i gyflwyno cynnwys. Po fwyaf o bobl leol sy’n cyflwyno straeon sydd naill ai’n amserol neu symbylol, mwyaf fydd llif y newyddion lleol a’r diddordeb ynddo a bydd mwy o bobl â chysylltiad a chyfle i chwarae rhan yn y gymuned ehangach. Ond fel dinesydd cyffredin, mae addasu’r hyn a welwch, a wyddoch ac a deimlwch i fod yn ddeunydd y gellir ei gyhoeddi a’i rannu’n gallu ymddangos yn frawychus ac anodd. Sut felly, mae cael gafael ar fwy, a gwell newyddion lleol? Sut mae addasu gwybodaeth i fod yn gynnwys o safon y gellir ymddiried ynddo?
Y newid mawr yn y degawd diwethaf o ran defnyddio’r cyfryngau yw’r datblygiad o gyfryngau goddefol i rai cydweithredol. Y cysyniad sy’n sail i Web 2.0 a chyfryngau cymdeithasol yw rhannu gwybodaeth, y gallu i ryngweithredu, cydweithio a chynnwys wedi ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr. Mae’r sianeli hynny sydd wedi ysgogi pobl i gymryd rhan wedi bod yn arbennig o lwyddiannus (e.e. Facebook) ond mae wedi bod yn anodd addasu’r llwyddiant hwn i feysydd lle nad yw pobl yn cael yr un manteision cyflym.
Trwy’r prosiect ymdriniwyd â newyddion hyperleol o ongl cwbl wahanol a chrëwyd llwyfan sydd nid yn unig yn becyn cymorth ar gyfer hel newyddion lleol ond yn ddull sy’n ysgogi cymunedau i fod yn rhan o’r broses. Ar ôl ei gyflwyno, y tîm golygyddol yw’r canolbwynt sy’n derbyn y newyddion a ddaw i law – gan olygu, ychwanegu neu ddiwygio’r cynnwys.
Adeiladu Storini
Aethom ati i dreialu’r cysyniad gyda’r tîm golygyddol a’r bobl leol ym Mhort Talbot yn ystod Ebrill a Mai 2013 wrth i’r prosiect datblygu. Erbyn dechrau’r haf roedd gennym lwyfan yr oedd yn bosibl i wasanaeth newyddion cymunedol Cymraeg newydd ei ddefnyddio hefyd wrth fynd ati i’w sefydlu yng Nghaerdydd. Cafodd Pobl Caerdydd ei gynllunio o’r cychwyn fel fersiwn digidol, mwy bywiog o bapur bro traddodiadol, Y Dinesydd, sy’n rhan o rwydwaith o dros 50 o bapurau bro Cymraeg. Mae’r fersiwn dwyieithog o’r llwyfan wedi dangos bod modd defnyddio Storini yn hwylus mewn mwy nag un iaith oherwydd ymunodd dros 60 o bobl â’r safle mewn un diwrnod ym mhrifddinas Cymru. I gefnogi’r defnydd hwn o’r Gymraeg ar sianelau digidol, bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu’r gwaith o ddatblygu ap Storini ac erbyn dechrau 2014 bydd cymunedau Cymraeg trwy Gymru’n gallu cyfrannu at eu newyddion cymunedol.
Bydd yr ap symudol ar gael yn Saesneg hefyd a bydd yn fodd i bobl gasglu ffotograffau, fideos a sylwadau bachog am newyddion wrth iddynt ddigwydd a’u bwydo’n ôl yn syth i’r canolbwynt lle bydd defnyddwyr eraill yn gallu plethu’r cyfan a chreu’r stori wrth iddi ddigwydd.
Nod Storini o’r dechrau oedd rhoi pŵer i’r gymuned i lunio eu newyddion a dathlu’r bobl sy’n eu creu. Trwy gyfrannu at Storini mae cyfle i bobl adeiladu eu henw da a chael eu gweld fel aelod gweithgar o’u cymuned. Mae pob aelod o’r gymuned sy’n cyfrannu adroddiadau, lluniau neu sylwadau i’r safle newyddion hyperleol yn cael eu cydnabod yn llawn, ac wrth iddynt gymryd rhan helaethach, bydd Storini yn rhoi mwy o reolaeth iddynt. Hyd yma, mae pobl sy’n â diddordeb mewn newyddiaduraeth wedi ymateb yn wych i Storini ac maen nhw’n gallu defnyddio’r safle i ddangos eu sgiliau wrth iddynt weithio ochr yn ochr â’u tîm newyddion lleol.
Beth nesaf?
Mae mwy o ganolbwyntiau hyperleol yn cael eu hychwanegu at fersiwn Beta o Storini wrth i ni baratoi i greu’r ap symudol. Mae pobl eraill wedi datgan diddordeb mewn ymuno unwaith mae’r llwyfan yn barod. Wrth i ni wneud hyn, rydym yn awyddus iawn i gael cymaint â phosibl o adborth, felly rhowch nod tudalen ar wefan Storini lle bydd newyddion diweddar yn cael eu postio, yn cynnwys pan fo tîm newyddion yn eich ardal yn dechrau ei ddefnyddio.
www.storini.com