Dyma grynodeb o’r hyn a ganfu ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Dinas Birmingham mewn astudiaeth gyfredol o wefannau newyddion hyperleol er mwyn canfod eu gwerth i gymunedau lleol yn y Deyrnas Unedig. Mae’n disgrifio rhai o’r prif ganfyddiadau yn hytrach na chyflwyno dadansoddiad beirniadol, gan mai’n ddiweddar iawn y cwblhawyd y gwaith empirig. Mae’r ymchwil hefyd yn rhan o astudiaeth llawer ehangach o werth cyfranogiad y dinesydd mewn cymunedau y gallwch ddarllen amdano yma [linc: http://creativecitizens.co.uk/]. Fe’i cyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac fel canllaw i’n gwaith rydym wedi partneru â’r ardderchog Talk About Local [linc http://talkaboutlocal.org.uk/ ] ac OFCOM [linc:http://stakeholders.ofcom.org.uk/market-data-research/market-data/communications-market-reports/cmr12/market-context/UK-1.98]. Dim ond rhan yw hwn o’r ymchwil pellach y bwriadwn ei wneud i newyddion hyperleol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, a fydd yn cynnwys: arolwg ar-lein o’r bobl sy’n cynnal y gwefannau hyn; llawer o gyfweliadau â chynhyrchwyr lle byddwn yn ymdrechu’n galed i ddeall y ffurf ddiweddar hon o newyddion; a gwaith gyda chynulleidfaoedd i’n cynorthwyo i ddeall yn well beth mae’r gwefannau hyn yn ei gynnig i’w cymunedau.
Y cyd-destun a’r llenyddiaeth academaidd:
Edrychir ar newyddion yn aml trwy brism ei berthynas â democratiaeth (McNair 2009). Yn allweddol i hyn mae’r syniad fod democratiaeth yn sicrhau’r llywodraethu da mwyaf effeithiol os yw penderfyniadau’r dinasyddion wedi’u seilio ar wybodaeth ddibynadwy (Habermas, 1989; Chambers a Costain, 2001). Mae llawer o astudiaethau wedi canfod fod yr argyfwng yn niwydiant newyddion y Deyrnas Unedig yn peryglu lleoldeb, safon ac annibyniaeth newyddion lleol (Franklin 2006, Williams a Franklin 2007, O’Neill ac O’Connor 2009). Mae’r astudiaethau hyn wedi canfod wrth i gyllid leihau a staff gael eu cwtogi fod prif lif y newyddion lleol yn dibynnu fwyfwy ar ffynonellau swyddogol a chysylltiadau cyhoeddus (sy’n golygu mai amrediad cul iawn o ffynonellau sy’n cael eu dyfynnu); mae’r ffocws hefyd yn llai lleol (gyda llai o argraffiadau, a defnydd amlach o straeon llanw asiantaethau newyddion cenedlaethol rhad). Mae hyn wedi arwain at bryderon am allu’r diwydiant i chwarae ei ran yn hybu democratiaeth.
Ond mae’r we, wrth gwrs, wedi galluogi cenhedlaeth newydd o gyflenwyr newyddion ag ogwydd gymunedol a elwir yn aml yn hyperleol (Bruns 2009, Metzgar et al 2011), sydd heb fod mor gyfarwydd yn y Deyrnas Unedig ond sy’n denu diddordeb parhaus y diwydiant newyddion a llunwyr polisi. Mae’r rhan hon o’n hastudiaeth wedi’i chynllunio i ddeall gwerthoedd newyddion hyperleol fel ffurf ddiwylliannol y dyfodol.
Mae swyddogaethau traddodiadol, dylanwadol, dan ddylanwad y cyhoedd, a chymdeithasol newyddion yn golofnau pwysig ein fframwaith ddamcaniaethol wrth fesur gwerth dinesig newyddion hyperleol (er enghraifft, mae cymunedau yn dal i gael eu llywodraethu o fewn fframwaith democratiaeth leol gynrychiadol). Fodd bynnag, fe fyddwn hefyd yn ceisio mesur pwysigrwydd newyddion hyperleol mewn perthynas â dangosyddion eraill, llai rhesymegol draddodiadol a gwleidyddol o “ddiwylliannol” (Miller 2006) a “dinasyddiaeth DIY” (Hartley 2011) gyda’r bwriad o brofi a datblygu ein syniad ein hunain o ddinasyddiaeth greadigol.
Beth a wnaethom:
Mae’r dadansoddiad cynnwys hwn o newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig yn sylwi’n benodol ar: ffynonellau (pwy sy’n diffinio newyddion hyperleol ac ym mha ffordd); pynciau (pa newyddion a gyflwynir?); “lleoldeb” y newyddion yma: gwerth dinesig y newyddion (mewn perthynas â chyflwyno gwleidyddiaeth, ond hefyd swyddogaeth y ffurf ddiwylliannol newydd yma yn meithrin (neu beidio) gwahanol fathau o “ddinasyddiaeth” mewn cymunedau). Mae dadansoddi cynnwys yn ddull ymchwil a ddefnyddir yn aml mewn astudiaethau o’r cyfryngau a newyddiaduraeth i ddadansoddi llwyth mawr o newyddion. Fel dull o ymchwil mae’n tueddu i gyffredinoli, ac felly dylai’r canlyniadau hyn gael eu hystyried fel tueddiadau bras mewn newyddion hyperleol yn y Deyrnas Unedig yn 2012. Fe’i cyfyngir hefyd gan y sampl, sef negeseuon a gyhoeddwyd ar wefannau aelodau rhwydwaith “Openly Local” y Deyrnas Unedig yn ystod 11 diwrnod ar ddechrau Mai 2012 (http://openlylocal.com/hyperlocal_sites). Sampl hwylus oedd hwn yn caniatáu i ni gynhyrchu canlyniadau dangosol heb yn gyntaf fapio holl wefannau newyddion cymunedol y Deyrnas Unedig, sy’n golygu fod lleoliadau hyperleol eraill heb eu hastudio. Roedd gwaith blaenorol gan Dave Harte ym Mhrifysgol Dinas Birmingham wrth baratoi at Adolygiad Marchnad Gyfathrebu OFCOM wedi mesur canlyniad y sampl yma, gan ganfod fod 3,819 neges wedi’u cyhoeddi ar 313 o wefannau gweithredol yn ystod y cyfnod yma. Rydym wedi nodi pob stori arall (odrif) ar bob gwefan (gellir canfod mwy o wybodaeth am y sampl yn y fan hon: http://creativecitizens.co.uk/publications/).
Beth a ganfyddom:
Pa fath o wefannau a ganfyddom?
Un dull a ddefnyddiwyd gennym i ddosbarthu’r gwefannau a welsom oedd pa un a oedden nhw’n cael eu cynnal yn annibynnol, yn gysylltiedig â “brand” newyddion cyfryngol traddodiadol fasnachol, neu’n defnyddio llwyfan a ddarparwyd gan (neu, wedi’i “drwyddedu” gan) sefydliad newyddion mwy fel gwefannau “Local World’s (Northcliffe Media’s bryd hynny) Local People”. Canfyddom fod 47% o’r straeon a welsom yn dod o wefannau unigol annibynnol, 12% o wefannau oedd yn rhan o rwydwaith annibynnol o wefannau hyperleol, 40% o wefannau hyperleol “trwyddedig”, a 2% o wefannau cymunedol cysylltiedig i wefannau newyddion lleol/rhanbarthol masnachol prif lif (enghraifft brin o’r rhain oedd adran “Your Cardiff” Walesonline.co.uk).
Pa bynciau a drafodwyd?
Yn nhermau pynciau newyddion a drafodwyd gan gyhoeddwyr hyperleol, canfyddom fod y categori mwyaf o newyddion yn y sampl yn ymwneud â gweithgareddau cymunedol lleol. Mae’r ffurf hon o newyddiaduraeth, ar y cyfan, wedi’i ffocysu’n ddaearyddol ac yn benodol gymunedol, ac mae’r categori hwn yn cynnwys straeon am grwpiau dinesig lleol anwleidyddol (e.e. Sefydliad y Merched, grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau lleol) yn ogystal â straeon am achlysuron cymunedol fel gwyliau lleol. Canfyddom hefyd lawer o straeon am gynghorau lleol a’r gwasanaethau y mae nhw’n ei ddarparu i lywodraeth leol, felly gwyddom fod cynulleidfaoedd hyperleol yn derbyn llawer o wybodaeth a allai mewn egwyddor fod o werth dinesig. Yn wir, hwn fyddai ein categori mwyaf pe na baem ni wedi neilltuo straeon am gynllunio, sy’n cael sylw mawr, ac sydd o dan reolaeth llywodraeth leol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r math yma o sylw i lywodraeth leol yn gwahaniaethu rywfaint o newyddion cyfryngol lleol prif lif y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi llai o sylw i wleidyddiaeth leol yn y blynyddoedd diweddar. Roedd categorïau mawr eraill yn cynnwys troseddau, newyddion busnes, adloniant a’r celfyddydau.
Pwy sy’n cael llais?
Yn draddodiadol, mae pa bobl, neu ffynonellau newyddion, sy’n cael eu dyfynnu yn y newyddion wedi bod yn ddangosydd pwysig o rym cymdeithasol mewn cymunedau. Gall pwy sy’n diffinio achlysuron newyddion effeithio’r farn gyhoeddus, cynyddu awdurdod, a nodi ystyr ddiwylliannol, a gan hynny mae nhw’n dangos y math o werth dinesig a gwleidyddol a grëir gan newyddiaduraeth gymunedol. Rydym wedi nodi pob ffynhonnell a ddyfynnir yn uniongyrchol, ond hefyd enghreifftiau o ddatganiadau anuniongyrchol gan ein bod yn eu hystyried yn bwysig rhag ofn fod arferion newyddiaduraeth hyperleol yn gwahaniaethu’n sylweddol o newyddiaduraeth fasnachol prif lif (sy’n rhoi pwyslais mawr ar ddyfyniadau fel dangosydd o dryloywder ffynhonnell, ac fel dull o weithredu safonau proffesiynol fel bod yn ddiduedd a gwrthrychol). Wrth i ni gymharu ein canfyddiadau gydag astudiaethau o newyddion lleol prif lif, mae peth tebygrwydd, ond hefyd gwahaniaethau pwysig. Fel y newyddion lleol masnachol, mae ffynonellau swyddogol mewn llywodraeth, busnes a’r heddlu yn bwysig iawn mewn newyddion hyperleol: gwleidyddiaeth ar wahanol lefelau sy’n gyfrifol am tua chwarter y ffynonellau a ddyfynnir, gyda busnes a’r heddlu yn ddylanwadol iawn hefyd. Ond gwahaniaeth allweddol yw’r swyddogaeth a roddir i aelodau’r cyhoedd yn gyffredinol, ac i gynrychiolwyr grwpiau cymunedol lleol yn y sector newydd hwn, sy’n cael eu dyfynnu’n helaeth – llawer mwy nag a ganfuwyd mewn sawl astudiaeth o bapurau lleol. Roeddem yn disgwyl canfod mwy o ddylanwad aelodau’r cyhoedd a oedd yn wleidyddol weithredol mewn brwydrau gwleidyddol, ond roedd ymgyrchwyr gwleidyddol yn brin iawn yn y sampl hon (dyfynnwyd llai o ymgyrchwyr gwleidyddol nag mewn sawl astudiaeth o newyddion lleol prif lif).
Yn cyfateb i rym ffynonellau newyddion yn yr amgylchfyd cyfryngol newydd y mae’r grym diffiniol a gysylltir â mynediad i’r we. Y categori mwyaf o wefannau a gysylltir â newyddion lleol yw un hunan-gyfeiriol: mae bron i draean y negeseuon yn cysylltu â chynnwys ar yr un wefan, fel arfer â straeon a gyhoeddwyd yn gynharach am bwnc tebyg. Ar ôl hynny, gwelir patrymau tebyg i’r un am ffynonellau. Dylid nodi yma mai cymharol brin yw’r negeseuon hyperleol sy’n cysylltu â’r cyfryngau newyddion prif lif.
Amrywiaeth barn?
Roedd cyfanswm y ffynonellau yn y sampl ar y cyfan yn eithaf bychan, sy’n dangos gwahaniaeth arwyddocaol mewn arferion newyddiadura rhwng y gwefannau newyddion cymunedol hyn a newyddion lleol traddodiadol. Ychydig dros hanner y straeon sy’n cyfeirio at ffynhonnell newyddion, sy’n golygu nad oedd llawer yn cynnwys mewnbwn ffynhonnell benodol o gwbl. Mae astudiaethau o newyddion traddodiadol wedi bod yn feirniadol iawn o ddiffyg ffynhonnell newyddion fel hyn, gyda’r pryder ei fod yn arwain at ddiffyg tryloywder i’r darllenydd, diffyg amrywiaeth yn ffynonellau’r wybodaeth y mae cynulleidfaoedd yn ei dderbyn, a diffyg cyfle i bobl ddysgu am safbwyntiau gwahanol am faterion penodol.
Roedden ni hefyd am olrhain gwahanol swyddogaethau ymyriad ffynonellau eilradd mewn straeon newyddion – mewn geiriau eraill, pan ddyfynnwyd mwy nag un person, pa bwrpas oedd i’w dyfyniad? Ar y cyfan, mae’n ymddangos fod ffynonellau newyddion hyperleol y Deyrnas Unedig yn dangos cysondeb rhyfeddol. O ran safon y ddadl a faint o safbwyntiau gwahanol a gyflwynir am unrhyw stori, mae’r newyddiaduraeth yma’n tueddu i beidio â bod yn feirniadol. Roedd rhan fwyaf ymyriadau’r ffynonellau eilradd yn ychwanegu cyd-destun a gwybodaeth ychwanegol i’r hyn a roddwyd gan y ffynhonnell gyntaf. Roedd llawer yn cytuno’n fras gyda’r ffynonellau gwreiddiol, gan roi gwybodaeth ategol. Fodd bynnag, dim ond nifer cymharol fechan o straeon gyda ffynonellau eilradd oedd yn cynnwys mynegiant o anghytuno rhwng ffynonellau. Mae hyn yn awgrymu ymhellach nad yw cynulleidfaoedd yn derbyn ystod eang o safbwyntiau gwahanol o ran ffynonellau perthnasol i’r newyddion y mae nhw’n ei ddarllen. Mae’r prinder ffynonellau, a diffyg ffynonellau gwrthgyferbyniol, yn bethau y dylem eu hystyried wrth barhau i ddehongli pwysigrwydd ein canfyddiadau.
“Lleoldeb” newyddion hyperleol”
Un o’r cwynion allweddol a wnaed am ddirywiad newyddion lleol prif lif yn y DG yw ei fod yn gynyddol llai lleol o ran cyfeiriad, ond nid yw hyn yn gyhuddiad y gellir ei wneud am newyddion hyperleol. Roeddem yn bwriadu asesu “lleoldeb” y newyddion ar y gwefannau hyn. Yn gyntaf, fe nodwyd pob ffynhonnell ymadrodd i ganfod a oedd yn sôn am yr ardal leol, ac roedd bron y cyfan o’r adroddiadau hyn ag ongl leol. Mae hyn yn gwneud synnwyr, wrth gwrs, gan fod casglu newyddion cenedlaethol angen adnoddau casglu newyddion, neu o leiaf danysgrifio i wifrau newyddion y DG (adnoddau nad sydd gan y cwmnïau bach hyn fel arfer). Ychydig iawn o newyddion cenedlaethol oedd yn y sampl. Roedd rhan fwya’r negeseuon wedi’u cyhoeddi oherwydd fod rhywbeth wedi digwydd ar lefel leol. Roedd rhai straeon o bwys cenedlaethol neu ryngwladol, ond bron yn ddieithriad roedden nhw’n cael eu hadrodd ag ongl leol fyddai’n gwneud y stori’n fwy perthnasol i gynulleidfaoedd lleol. Mae hyn yn galonogol iawn hefyd o ran swyddogaeth y newyddion yn meithrin cydlynu cymunedol, a chylch cyhoeddus lleol hefyd, efallai.
Annog dinasyddiaeth wybodus?
Rydym wedi gweld yn glir gyda’n data am bynciau straeon fod darllenwyr newyddion hyperleol yn derbyn llwyth o wybodaeth am wleidyddiaeth, yn enwedig gwleidyddiaeth llywodraeth leol. Mae hyn yn gysylltiedig â gallu’r newyddion i feithrin dinasyddiaeth wybodus mewn perthynas â gwleidyddiaeth. Er mwyn ymchwilio ymhellach i hyn, edrychwyd ar straeon gydag unrhyw gyfeiriad at wleidyddiaeth, gan nodi a oedd ganddyn nhw ongl a oedd yn benodol berthnasol yn lleol ai peidio. Yma gwelwyd arwyddion pellach o rym y math hwn o newyddion pan ddaw’n fater o adrodd am wleidyddiaeth leol. Mae tua traean y straeon yn cyfeirio at wleidyddiaeth, ac mae rhan fwya’r cyfeiriadau hyn am wleidyddiaeth leol. Mae hyn yn galonogol, yn enwedig gan fod llawer o’r gwefannau hyn wedi’u lleoli mewn mannau lle mae’r papurau lleol diffygiol yn gweithredu gyda sgerbwd o staff, wedi diflannu’n llwyr yn barod, neu lle nad oedd fawr o gyfryngau prif lif yn bodoli yn y lle cyntaf.
Annog dinasyddiaeth weithredol?
Un o’r pethau yr oeddem hefyd yn ceisio’i ganfod yw i ba raddau y mae’r math yma o newyddion yn annog pobl i fod yn fwy gweithredol yn eu cymunedau. Yn y prosiect ymchwil hwn, rydym yn gweld blogio hyperleol ei hun yn fath o “ddinasyddiaeth greadigol” – ffordd weithredol o gyfranogi’n gymunedol sy’n golygu fod pobl yn chwilio, casglu, ysgrifennu ac adeiladu eu newyddion eu hunain. Mae’n ffurf gynhenid i’r we, gydag ymarferwyr ran amla’n gyfforddus gyda rhyngweithio beunyddiol y cyfryngau cymdeithasol. Am y rheswm hwn, roeddem yn disgwyl canfod cryn alw mewn blogiau newyddion hyperleol am i aelodau’r cyhoedd ymuno yn y gweithredu – cymryd rhan mewn newyddiaduraeth DIY, cydweithiol neu rwydweithiol. Fe’n synnwyd nad oedd llawer o hyn o gwbl. Fe nodwyd unrhyw annog penodol o wahanol fathau o weithgaredd newyddiadurol ddinesig (fel cyd-gynhyrchu straeon, cyflwyno cynnwys o fathau gwahanol, cynnig adborth, ac yn gyffredinol “dweud eu dweud”) ond gwelwyd mai ychydig iawn o hyn oedd yn digwydd.
Rydym hefyd wedi chwilio’n ehangach gan edrych am apêl benodol i gymryd rhan mewn agweddau gwahanol o fywyd dinesig, cymunedol neu ddiwylliannol. Eto, gwelwyd pwyslais trwm ar drefnu cymunedol anwleidyddol eu hunain. Tua un o bob deg neges oedd yn cynnwys galwad i gymryd rhan neu drefnu achlysuron cymunedol (dathliadau, partïon pentrefol, gweithgaredd clybiau, ac ati). Y categori ail fwyaf oedd galwadau i rannu gwybodaeth am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r gwahanol awdurdodau. Fodd bynnag, eithaf prin yw’r galwadau i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gynrychioliadol ffurfiol neu wleidyddiaeth anffurfiol ar sail protest. Felly, mae’r math o weithgarwch a hybir neu a feithrinir yn arferol gan y gwefannau hyn yn eithaf anwleidyddol a chymunedol. Roeddem hefyd yn ceisio canfod a oedd y galwadau yn ymwneud â gweithgaredd yn y “byd real” ynteu a oedden nhw’n hybu gweithredoedd o ddinasyddiaeth rhithiol ac yn bennaf ar-lein. Yn ddiddorol, o safbwynt ffurf o newyddion digidol sy’n rhan annatod o’r we, roedd rhan fwya’r galwadau hyn i weithredu, mwy na deuparth ohonyn nhw, yn ymwneud â gweithredodd yn y byd go iawn, a dim ond 30% oedd yn galw am weithredu ar-lein.
Y defnydd o gynnwys amlgyfryngol a chyfleoedd i ryngweithio
Roeddem yn chwilio sut oedd y gwefannau hyn yn defnyddio cynnwys amlgyfrwng yn eu negeseuon blog. Canfuwyd defnydd sylweddol o ddelweddau (roedd tua deuparth y negeseuon yn cynnwys delwedd), ond dim llawer arall. Ychydig iawn o’r negeseuon oedd yn cynnwys fideo, mapio, deunydd sain neu/a deunydd darlunio. Tra nad yw’r sector hwn mor greadigol gyda chynnwys amlgyfrwng ag y disgwylid, mae’n gyfforddus iawn yn defnyddio cysylltiadau cyfryngol cymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd i gynulleidfaoedd ddosbarthu a rhannu cynnwys. Felly, tra nad yw’n ymddangos fod pobl hyperleol yn creu cynnwys amlgyfrwng yn arferol, mae’r sector yn rhwydweithiol iawn wrth gynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddosbarthu a rhannu cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu’n barod. Elfen arall o’r posibiliadau i gynulleidfaoedd ryngweithio a gynigir gan y gwefannau hyn yw rhoi cyfle i wneud sylw am negeseuon blog. Roedd rhan helaethaf yr erthyglau yn caniatáu sylwadau, wrth gwrs, gyda’r prif eithriadau yn rhai straeon oedd yn ymwneud ag achosion llys cyfredol sy’n arbennig o sensitif yn gyfreithiol. Mewn llai na thraean yr achosion, fodd bynnag, yr oedd cynulleidfaoedd yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Roedd tua un o bob deg sylw dilynol a atodwyd i’r negeseuon blog yn ymwneud â chyfathrebu un-ffordd gan gynulleidfaoedd, a thua’r un nifer o negeseuon yn arwain at sgyrsiau rhwng aelodau o’r gynulleidfa, neu rhwng aelodau o’r gynulleidfa a chyhoeddwyr hyperleol.
Gwerth economaidd newyddion hyperleol
Mae elfen bwysig o’n problem ymchwil gyfan yn ymwneud â chanfod gwerth economaidd cyhoeddi hyperleol. Dyma sector sy’n tofu. Bydd rhan fwya’n ymholiadau yn y cyswllt hwn yn cael eu hateb gan elfennau diweddarach o’n hymchwil pan fyddwn yn cyfweld ac arsylwi cynhyrchwyr y math hwn o newyddion, ond yma fe wnaethom gasglu peth data am faint a natur hysbysebu ar y gwefannau hyn. Roedd deuparth y negeseuon yn gysylltiedig â hysbysebu cynnyrch, busnes neu wasanaeth lleol, ychydig dros hanner â hysbysebu cenedlaethol, a dim ond tua un o bob deg heb unrhyw hysbysebu o gwbl.
Beth nesaf i’r ymchwil hwn?
Ein camau nesaf fydd eistedd i lawr gyda’n partneriaid a dechrau ffurfio cynllun ar gyfer ein harolwg ar-lein a’r cyfweliadau gyda chynhyrchwyr. Os ydych chi’n gweithio ar wasanaeth newyddion hyperleol, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi, a byddem yn falchach fyth pe baech yn cytuno i gymryd rhan yn ein hymchwil. Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost ataf, os gwelwch yn dda, i [email protected].
Gweithiau y cyfeirir atynt:
Bruns, A. (2005) Gatewatching: collaborative online news production, New York: Peter Lang
Metzgar, E., Kurpius, D., Rowley, K. (2011) “Defining Hyperlocal Media: Proposing a framework for discussion”, New Media and Society, 13:5, pp.772-787
Chambers, S. and Costain, A. (eds.) (2001) Deliberation, Democracy, and the Media, London: Rowman and Littlefield
Franklin, B. (1986) “Public Relations, the Local Press and the Coverage of Local Government”, Local Government Studies, Summer, pp.25–33.
Habermas, J. (1989) The Structural Transformation of the Public Sphere: An Inquiry into a Category of Bourgeois Society. Cambridge (MA): MIT Press
Hartley, J. (2010) “Silly citizenship”, Critical Discourse Studies, 7:4, pp.233-248
McNair, B. (2009) “Journalism and Democracy”, in Wahl Jorgensen, K., and Hanitsch, T. (eds.) The Handbook of Journalism Studies, New York and London: Routledge, pp.237-249
Miller, T. (2006) Cultural Citizenship: Cosmopolitanism, consumerism, and television in a neoliberal age, Philadelphia: Temple University Press
O’Neill, D. and O’Conor, C. (2008) “The Passive Journalist; How Sources Dominate Local News”, Journalism Practice, 2:3, pp.487-500.
Williams, A. and Franklin, B (2007) Turning Around the Tanker: Implementing Trinity Mirror’s Online Strategy, Cardiff University, Ar gael yn:http://image.guardian.co.uk/sys-files/Media/documents/2007/03/13/Cardiff.Trinity.pdf (mynediad diwethaf 28 Rhagfyr 2012)