Beth yw Hyperleol?
Diffinio Dyfodol Newydd
Yn y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, mae pobl yn aml yn gofyn i ni: beth yw hyperleol? Beth yw newyddion hyperleol?
Fel yr unig sefydliad yn y DU sy'n gweithio’n weithredol ac yn gyfan gwbl i gefnogi'r sector, roeddem o'r farn y dylem ddiffinio'r union hyn rydym yn ei gefnogi, a’r rheswm dros hynny.
Cefndir
Mae’r newid i adnoddau ar-lein wedi arwain at gynhyrfu’r modelau newyddiaduriaeth traddodiadol. Mae pobl wedi colli swyddi, mae llai o refeniw wrth i gyfleoedd hysbysebu ddiflannu, a chafwyd yr effaith fwyaf ar newyddiaduriaeth wrth i gyhoeddiadau gilio o’u hardaloedd traddodiadol.
Ond mae'r ymfudiad digidol hwn hefyd wedi ysbrydoli unigolion a chymunedau i gamu i’r arlwy er mwyn darparu ffynonellau eraill o wybodaeth drwy fentrau cymdeithasol, busnesau a gwasanaethau gwirfoddol; gan gynnig gwasanaeth pwysig iawn i’w cymunedau.
Ychwanegu hyperleol
Rydym o’r farn bod newyddiaduraeth gymunedol a hyperleol annibynnol, sef mudiad sy'n dal i dyfu, yn helpu i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol; yn cysylltu ac yn cynnwys unigolion i fynd i’r afael â phroblemau lleol gan arwain at newidiadau cadarnhaol. Mae dinasyddiaeth fwy gwybodus a mwy o atebolrwydd lleol yn golygu cymunedau cryfach a democratiaeth iachach.
Rydym yn diffinio cyhoeddiad newyddion cymunedol a hyperleol fel gwasanaeth newyddion sydd, fel rheol, yn ymwneud ag ardal ddaearyddol benodol fel tref, cymdogaeth, pentref, gwlad neu hyd yn oed gôd post.
Mae sawl ffordd o ddiffinio'r sector hwn, ac mae cyhoeddiadau'n defnyddio llawer o dermau gwahanol i ddisgrifio'u hunain. Y nodwedd ddiffiniol i ni yw nad yw cyhoeddiad yn cynnwys buddiannau gwleidyddol, masnachol a chrefyddol, ei fod yn canolbwyntio ar y gymuned, ac yn cynhyrchu cynnwys newyddion cyfoes.
Rydym yn credu mewn diffiniad gymharol eang o newyddion sy’n cynnwys newyddion sy'n torri, y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon, nodweddion newyddion, digwyddiadau adloniant diwylliannol a chymunedol, ymgyrchoedd, tywydd, trafnidiaeth, trosedd, hanes lleol a busnes lleol, ac ysgolion.
Yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Mae grwpiau ac unigolion angerddol sydd â gwybodaeth am y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethau yn gyfrifol am gynnal mwy na 400 o’r safleoedd ymroddedig hyn. Mae'r safleoedd yn amrywio o hybiau gwybodaeth a chyfnodolion y celfyddydau a diwylliant i fodelau mwy traddodiadol o gyhoeddiadau newyddion, gan gynnwys gwasanaethau newyddion ymchwiliadol; ac mae pob un wedi'i rwymo gan ansawdd golygyddol cryf o adrodd gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r cyhoeddwyr newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol hyn yn cefnogi neu'n cychwyn ymgyrchoedd lleol. Mae mwy na hanner yn cynnal adroddiadau ymchwiliol, sydd wedi helpu i ddatgelu gwybodaeth newydd am faterion dinesig lleol. Mae bron hanner y cyhoeddiadau hynny'n cael eu cynnal gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant newyddiadurol neu brofiad o weithio yn y cyfryngau prif ffrwd. Y pwnc mwyaf cyffredin sy'n cael sylw gan gyhoeddiadau newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol yw gweithgareddau cymunedol ee. cynghorau lleol a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, gwyliau, digwyddiadau a chymdeithasau.
I ba gyfeiriad maen nhw’n mynd?
Mae arloesi ac arbrofi yn hanfodol os yw'r sector hwn yn mynd i ffynnu, ac mae rhai cyhoeddiadau wedi manteisio ar ddatblygiadau technolegol i gynhyrchu cynnwys hynod weithredol. Mae ecoleg cyfryngau digidol modern yn golygu bod y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau hyn ar-lein. Fodd bynnag, rydym yn gweld twf yn nifer y safleoedd sy’n argraffu eu cyhoeddiadau, er mwyn ehangu ac ychwanegu at eu cynnig digidol, ac i ddenu hysbysebwyr lleol.
Wrth i bapurau newydd lleol gau ac i deitlau hirsefydlog uno â theitlau rhanbarthol, mae cyhoeddwyr newyddion cymunedol a hyperleol yn camu i lenwi'r gwagle, gan lwyddo gyda llai o adnoddau a refeniw llai lle mae modelau corfforaethol wedi methu.
Mae gan y wasg leol draddodiadol rôl gadarnhaol a hanfodol i'w chwarae o hyd wrth helpu i lywio, ymgysylltu a chraffu ar gymunedau. Credwn y gall cymunedau elwa ar y ddau fodel o newyddiaduraeth ac y dylid trin pob un yn gyfartal gyda’r un safonau.
Ar ben arall y sbectrwm, lle nad oes arbedion maint a lle nad maint yr elw, mae unigolion yn ei chael hi'n anodd o ddydd i ddydd i gadw eu cyhoeddiadau yn hyfyw. Y brif frwydr ymhlith y rhain yw economeg: sut i gynhyrchu llif refeniw cynaliadwy.
Dyma lle bydd rhwydwaith gynrychioliadol yn gallu cynorthwyo, wrth helpu i lywio’r ecoleg cyfryngau newydd sy’n credu bod newyddiaduraeth o fudd i gymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac yn perthyn iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matt Abbott yn [email protected]