Hyfforddiant
Rydym yn manteisio ar yr arbenigedd hwn i gynnig cyrsiau byr a hyfforddiant pwrpasol a datblygiad i newyddiadurwyr cymunedol a hyperleol yn ogystal â sefydliadau masnachol a chyhoeddus.
Rydym yn defnyddio ein harbenigedd i gynnal amryw o gyfleoedd hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel, sydd hefyd yn cynnig gwerth da am arian. Mae ein hyfforddwyr ymhlith y gorau yn y DU a gallant roi cefnogaeth bwrpasol yn ogystal â chyrsiau meistr safonol a diwrnodau hyfforddi. Nid ydym yn gwneud elw o’r gwaith hwn. Mae'r arian a godwn o gynnal cyrsiau ar gyfer sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn mynd yn ôl i gefnogi newyddiaduraeth gymunedol a hyperleol annibynnol gyda hyfforddiant, cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o hyfforddiant rydym yn ei gynnig, anfonwch ebost at
Reolwr y Ganolfan, Emma Meese yn [email protected].
(Mae ein hyfforddiant yn ddwyieithog gyda rhai sesiynau’n Saesneg yn unig ac eraill yn y Gymraeg yn unig. Gellir cyfieithu sesiynau hyfforddi i sicrhau eu bod ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg).