Mae cyhoeddwyr annibynnol yng Nghymru ar fin cael elwa o gyfran o gronfa o £100,000 i gefnogi newyddiaduraeth gymunedol er budd y cyhoedd.
Cymru Greadigol sy’n darparu’r nawdd, sef asiantaeth o fewn Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo ac yn creu cyfleoedd ar draws y sectorau creadigol yng Nghymru. Mae’r Gronfa Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol wedi’i rhannu’n dri. Mae un rhan yn ysgogi’r sector trwy helpu pobl sydd â syniadau newydd i greu safleoedd newyddion cymunedol cynaliadwy. Bydd rhan arall yn helpu cyhoeddwyr annibynnol sy’n bod eisoes i gynhyrchu newyddion sydd er budd y cyhoedd. Bydd trydedd ran yn cynnig cymorth brys.
Mae’r grant yn cael ei drefnu gan Ping! News, cwmni er budd y gymuned sy’n cael ei redeg gan yr Independent Community News Network (ICNN) a’r datblygwr o Fryste, Omni Digital. Nod Ping! yw helpu i greu sector newyddion cymunedol annibynnol cynaliadwy.
Croesawodd dirprwy gyfarwyddwr ICNN Matt Abbott yr arian gan ddweud: “Mae newyddiaduraeth annibynnol er budd y cyhoedd yn bwysicach nag erioed, yn enwedig yng Nghymru lle mae cymaint o’r newyddion yn nwylo ychydig iawn. Bydd y gronfa’n ceisio datrys y broblem hon trwy helpu mudiadau i ddarparu newyddion lleol er budd y cyhoedd a helpu’r sector newyddion yng Nghymru i dyfu.”
Rhaid i’r ymgeiswyr am yr arian ‘arloesi’ brofi eu hymrwymiad i newyddiaduraeth ddiduedd er budd y cyhoedd yn eu cymunedau, disgrifio’u syniadau a dangos sut bydd y grant yn eu helpu i fod yn gynaliadwy. Mae pedwar grant o £5,000 ar gael a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn manteisio hefyd ar sesiynau hyfforddi a help arbenigol ICNN. Bydd wyth grant o hyd at £8,000 ar gael hefyd i gyhoeddwyr sy’n bodloni amodau ICNN yng Nghymru. Defnyddir yr arian i dalu cyhoeddwyr am roi o’u hamser i gynhyrchu newyddion cymunedol er budd y cyhoedd.
Bydd trydydd cronfa yn cynnig grantiau bach i gyhoeddwyr presennol sy’n profi argyfwng neu broblemau technegol.
Bydd y rhaglen grantiau’n dechrau wythnos yma.
I weld manylion llawn y cynllun, ewch i www.pingnews.uk.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â gweinyddwr grantiau John Baron ar [email protected] neu ffoniwch 07446 968140.