Cefnogi Newyddiaduraeth Leol
Rydym yn cefnogi mathau newydd o newyddiaduraeth ddigidol lleol ac yn archwilio modelau newydd, cynaliadwy ar gyfer newyddion.
Mae ein ffocws ar y lefel leol; y man lle mae newyddiaduraeth yn cael ei werthfawrogi fwyaf, ond hefyd yn y perygl mwyaf. Sefydlwyd C4CJ oherwydd bod newyddiaduraeth leol ym Mhrydain yn wynebu nifer o heriau mawr, megis:
- Cynnydd y rhyngrwyd, gan daro modelau busnes traddodiadol o newyddiaduraeth brint yn galed;
- Mae refeniw darllen a hysbysebu yn dirywio'n gyson;
- Llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr oherwydd torri costau;
- Ymddiriedaeth mewn newyddiaduraeth yn dirywio oherwydd nifer o sgandalau proffil uchel yn ddiweddar.
Mae’r argyfwng yn y diwydiant newyddion wedi'i deimlo'n fwyaf difrifol, mewn sawl ffordd, ar y lefel leol lle nad oes arbedion maint a mae llai o elw. Mewn gwlad fel Cymru, gyda'i threiddiad uchel o newyddion wedi ei seilio yn Llundain, mae hyn yn creu'r potensial ar gyfer gwyriad democrataidd difrifol. Yn y Ganolfan Newyddiaduraeth
Gymunedol rydym yn ymwybodol iawn o'r materion hyn ond rydym yn dal i gredu yng ngwerth newyddiaduraeth dda. Ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i lunio dyfodol newyddion lleol - dyfodol sy'n cadw ysbryd delfrydiaeth tra’n delio â realiti ymarferol.