Y dyddiau yma, nid yw prynu papur newydd lleol yn rhywbeth y mae llawer o genedlaethau sy’n tyfu neu’n aeddfedu’n ei wneud rhagor. Mae’r cyfryngau cymdeithasu’n diweddaru’n gyson ar eich ffôn clyfar, yn ystod eich taith i’r gwaith, neu i’r gampfa, ar eich cyfrifiadur gwaith a’ch llechen gartref. Yn aml bydd y teledu ymlaen yn y cefndir. Yn syml, mae nifer cynyddol o bobl yn dweud nad oes ganddyn nhw mo’r amser i ddarllen papurau newydd. Er y tynnwyd eu sylw i gyfrwng arall, maen nhw’n wirioneddol angen newyddion lleol o hyd.
Felly roedd rhaid i’n dull fod yn wahanol i’r patrwm sefydledig: cyhoeddiad digidol lleol, anwleidyddol fyddai’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn gynaliadwy’n fasnachol. Dyma enwi’r cyhoeddiad yn The Lincolnite. Yn syth wedi inni raddio mewn newyddiaduraeth, roedd rhaid bwrw iddi. Ar ôl i filoedd o bobl ymweld â’n prosiect yn ystod y mis cyntaf, fe wnaethon ni benderfynu cychwyn busnes, gan ddod yn entrepreneuriaidnewyddiaduraeth ddigidol.
Sylfaenwyr The Lincolnite, Daniel Ionescu a Elizabeth Fish
Roedd hynny lai na phedair blynedd yn ôl. Heddiw, rydym yn wefan newyddion lleol gwobrwyedig sy’n cyrraedd rhagor na 171,000 o ymwelwyr bob mis – cymuned wych rydym yn falch o’u gwasanaethu. Rydym wedi dysgu rhai pwyntiau pwysig a allai fod yn ddefnyddiol ar eich gyrfa newyddiadurol neu yn eich cymuned leol, wrth ohebu’n ddyddiol ac ymgysylltu â’n cymuned. Ceisiais eu crynhoi i dri phrif bwynt.
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasu’n effeithiol
Mae saernïo postiadau cyfryngau cymdeithasu yn cadw’ch bys ar bỳls eich cymuned. Nid lle i rannu penawdau eich erthyglau’n unig yw Twitter a Facebook. Maen nhw’n gyfryngau gwych i gyfathrebu â’ch cynulleidfa, ac i ennyn eu hymateb. Pan fo straeon newyddion yn torri, mae penawdau clir yn briodol. Ond rai oriau’n ddiweddarach, gallwch ymgysylltu a holi cwestiynau dilys. Cewch eich synnu fel y daw pobl i fwrw’u bol yn raddol. Cofiwch fanteisio bob tro ar eich cyfryngau cymdeithasu trwy gynnwys dolen i’ch erthyglau, lle bo’n briodol, er mwyn denu pobl at eich gwefan.
Adroddwch straeon eich cymuned
Bydd ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasu hefyd yn denu pobl sydd am adrodd eu stori wrthoch chi, neu am ddweud yr hyn maen nhw’n ei wneud dros y gymuned. Mae pobl yn hoffi darllen straeon o ddiddordeb dynol a pherthnasol i’r gymuned. Gwnewch yn siŵr bod gennych gydbwysedd dda o straeon o’r fath. Bydd hyn yn cadarnhau eich swyddogaeth newyddiadurol yn y gymuned rydych yn ei gwasanaethu.
Cymedrolwch, peidiwch â rheoli’ch cymuned
Pan fydd sylwadau’n dechrau cyrraedd, po fwyaf eich cynulleidfa, mwyaf tebyg y bydd rhai pobl yn anghytuno â chi neu gyda’r erthyglau rydych chi’n eu hysgrifennu. Bydd rhai’n fwy croch na’i gilydd, a bydd magu croen eliffant yn helpu. Os byddwch chi’n gwneud camgymeriad, fel sy’n digwydd yn aml pan fo newyddion yn torri, bydd syrthio ar eich bai a chywiro’r camgymeriad, cyn gynted â phosibl, yn ennill ymddiriedaeth eich cymuned.
Mae hi’r un mor bwysig annog pobl i ddefnyddio’u henwau iawn wrth ganiatáu sylwadau ar straeon, oherwydd bydd hyn yn annog pobl i siarad. Os bydd pobl yn gofyn cwestiynau dilynol yn yr adran sylwadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hateb yn syth. Gallwch fod yn llym ar iaith aflan, ond yn ystyriol o’r rheini sydd â barnau gwahanol, fel sy’n digwydd mor aml pan fo materion yn ymwneud â chrefydd neu fewnfudo’n cael eu trafod, er enghraifft. Cofiwch hefyd y bydd sgyrsiau’n digwydd y tu allan i’ch adran sylwadau. Dilynwch yr un canllawiau ar gyfer pob cyfrwng cymdeithasu. Yn y pendraw, bydd pobl yn dewis pa gyfrwng sydd orau ganddyn nhw i ymgysylltu.