Mae rhannu newyddion a gwybodaeth mewn ffordd ddifyr a dibynadwy yn hanfodol i unrhyw gymuned. Mae iaith fyw angen pobl sy’n hyderus ac yn frwd dros greu a threulio newyddion, yn defnyddio’r sianeli mwyaf poblogaidd ac effeithiol yn yr iaith honno. Dyma’r grym mawr y tu ôl i’r rhaglen hyfforddi Digidol ar Daith. Y bwriad yw dysgu sgiliau, meithrin hyder a datblygu rhwydwaith o bobl, ar draws Cymru, sy’n creu a rhannu mwy o newyddion o fewn eu cymunedau drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Mae yna draddodiad cryf o newyddion cymunedol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae lle wedi bod yn elfen bwysig iawn o’r hunaniaeth Gymreig erioed, a hyn oedd sail datblygiad y papurau bro. Dechreuwyd cyhoeddi’r papurau hyn yn y 1970au ac erbyn hyn mae dros 50 yn cael eu hargraffu’n fisol. Mae’r papurau bro yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n cofnodi bywydau eu cymunedau. Mae’r papurau ar gael mewn siopau lleol, drwy danysgrifiad a thrwy glybiau, capeli ac eglwysi.
Mae hollbresenoldeb y cyfryngau digidol a chymdeithasol, wrth gwrs, wedi newid y ffordd mae’r mwyafrif o bobl – pobl ifanc yn enwedig – yn rhannu newyddion. Cynigia’r cyfryngau hyn gyfleoedd i greu a rhannu cynnwys gwych gyda rhagor o bobl yn fwy cyson, ond mae’r ffaith fod y sianeli digidol hyn yn cael eu gyrru a’u trefnu drwy’r Saesneg yn broblem i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae ymhell dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Ond, mae’r Gymraeg ymhlith nifer o ieithoedd Ewropeaidd sy’n cael eu hystyried mewn perygl o ddifodiant digidol gan ymchwilwyr oherwydd bod y rhan fwyaf o seilwaith digidol Cymru (fel sy’n wir am wledydd eraill) yn Saesneg.
Yn ei Strategaeth Iaith Gymraeg mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i alluogi ac annog cymunedau i ddefnyddio’u hiaith ym mhob agwedd ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae’r defnydd rhwydd a rheolaidd o gyfryngau digidol a chymdeithasol yn hanfodol i hyn. Gwelodd y Ganolfan Newyddiaduriaeth Gymunedol, sy’n cefnogi datblygiad sector newyddion cymunedol ffyniannus, gyfle i adeiladu ar y gofyn parhaus am newyddion lleol a rhwydweithiau cymdeithasol a chyfundrefnol Cymraeg i ddatblygu sgiliau a hyder.
Dechreuodd y prosiect Digidol ar Daith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, drwy ymchwilio a chasglu’r gwahanol adnoddau sydd ar gael i helpu i greu a chyhoeddi newyddion yn y Gymraeg. Dan arweiniad Emma Meese o’r Ganolfan Newyddiaduriaeth Gymunedol, crëwyd a rhannwyd sgrinlediadau yn dangos sut i ddod o hyd i’r gwahanol adnoddau, yn ogystal ag adnoddau hanfodol eraill. Fe wnaethom hefyd ddechrau sgwrs ar Twitter ac e-bost, siarad wyneb yn wyneb a rhannu taflenni cyhoeddusrwydd i greu diddordeb, codi ymwybyddiaeth o’r potensial ac i roi gwybod i bobl am yr hyfforddiant arfaethedig. O fewn ychydig wythnosau, roedd gennym gronfa ddata yn cynnwys manylion 600 o bobl, llawer o ymateb cadarnhaol, a phrin iawn oedd y rhai wnaeth ddad-danysgrifio.
Penodwyd un o raddedigion diweddar Ysgol y Gymraeg i ddatblygu cysylltiadau. Gwnaeth waith sylweddol yn trefnu sesiynau hyfforddi mewn 12 o wahanol leoliadau ar draws Cymru (bydd y rhain yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a Mawrth 2015). Mae nifer o’r lleoliadau hyn yn perthyn i bartneriaid a fydd yn cael hyfforddiant i greu a chyhoeddi newyddion. Buom hefyd yn cydweithio â Golwg 360, y gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg. Bydd Emma a Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, un o’n newyddiadurwyr uchaf ei barch, yn teithio o Langefni i Gaerdydd. Yn ogystal â dysgu sgiliau, rydym hefyd yn gobeithio meithrin hyder a brwdfrydedd. Y nod yn y pen draw yw gweld rhagor o newyddion o safon yn cael ei greu a’i rannu ar-lein yn Gymraeg ac i wneud hynny yn y ffordd Gymreig – fesul cymuned.
Cliciwch yma i gofrestru i gymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi am ddim.