Wrth i fwy a mwy o bobl dderbyn newyddion lleol yn ddigidol, ymgasglodd grwp o newyddidurwyr cymundeol yn Y Senedd yr wythnos diwethaf ar gyfer arbrawf unigryw gyda chefnogaeth Canolfan Newyddiaduraeth GymundeolPrifysgol Caerdydd. Y nod oedd gnweud gymaint a phosib er mwyn creu cysylltiad rhwng cymunedau lleol a’r Cynulliad drwy hwyluso’r broses o gael gafael ar y wybodaeth a’r bobl berthnasol. Gyda dadrithiad tuag at wleidyddiaith yn rhemp dyma gyfle i glywed gan bob un o’r pleidiau, cael gafael yn uniongyrchol ar Aelodau a chyhoeddi straeon hollol berthnasol i gymunedau bychain Cymru. Ymysg y naw cyhoeddiad oedd yno roedd Papur Y Cwm, papur bro Cwm Gwendraeth, a Pobl Caerdydd
Ers tro nawr, mae’r Lywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi bod yn tynnu sylw at y bwlch sy’n bodoli yn nhermau gwybodaeth a newyddion ynglyn a’r Cynulliad a materion sydd wedi eu datganoli. Ei phryder yw fod y bwlch yn niweidiol i ddemocratiaith.
Dangosodd ymchwil o Brifysgol Caerdydd fod yna her anferth yn wynebu sefydliadau yng Nghymru wrth i newyddion Prydeining ddominyddu heb adlewyrchu’r gyfundrefn wahanol yng Nghymru. Ar ben hyn mae papurau newyddion lleol wedi bod yn cau neu’n crebachu yn arswyddus o gyflym gan adael sawl ardal heb ohebyddion i rannu newyddion a gofyn cwestiynau caled.
Ond mae’r dechnoleg newydd fu’n creu y dinistr yma hefyd wedi ysgogi sector newydd gyffrous. Ar lein a thrwy rwydweithiau cymdeithasol, mae newyddidurwyr – nifer ohonynt yn wirfoddolwyr – wrthi’n creu a rhannu newyddion lleol iawn heb boeni am gostau argraffu a chyflenwi. Bob blwyddyn mae mwy o bobl yn derbyn eu newyddion yn ddigidol fel dangosodd ffigyrau Ofcom. Roeddem ni am arbrofi trwy gysylltu newyddiadurwyr cymunedol yn uniongyrchol gyda’r bobl a’r sefydiadau sy’n gwenud penderfyniadau holl bwysig ac yn craffu ar Lywodraeth Cymru.
Cafodd pob Aelod Cynulliad a phob plaid wleidyddol eu hysbysu ymlaen llaw. Yn aml, mai’n anodd i newyddiadurwyr gwirfoddol fel hyn fynnu hygrededdd a’r nod oedd dangos yn glir faint o gyfle sydd yma i wleidyddion etholedig ymwneud yn uniongyrchol a’u cymunedau trwy newyddion lleol iawn. Darparwyd wybodaeth am holl fusnes y dydd – Pwyllgorau, gweithgareddau a chynnwys ar lein.
Pwy wyddai, er engraifft, mai dim ond deg llofnod sydd ei angen er mwyn i ddeiseb gael ei thrafod? Neu fod modd cymeryd pigion o SeneddTV nawr a’u gosod ar eich gwefan?
Ymysg y pynciau dan sylw ar 22ain o Hydref oedd arbed ynni a thlodi ynni; y gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg – Gyda’r Prif Wenidog a’r Comisiynydd Iaith; ac adroddad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru yn llawn gwybodaeth am iechyd y genedl. Y cyfan felly’n berthnasol ar lefel cymuned a’r mwyafrif heb gael sylw yn y wasg draddodiadaol.
Wedi i’r Llywydd groesawy pawb i Adeilad y Lanfa death cynrychiolwyr o bob un o’r prif belidiau i geisio darbwyllo’r 25 newyddiadurwr i ddilyn eu straeon hwy. Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen, death yn amlwg mai’r pleidiau hyny oedd wedi ceisio teilwra straeon i apelio ar lefel gymunedol oedd y rhai gafodd y sylw o ran straeon – sef grantiau i ddisgyblion difreintiedig a gwarchod asedau cymunedol. Doedd dim diddordeb o gwbl mewn ail adrodd straeon negyddol ynglyn a’r gwasaneth iechyd yng Nghymru oedd wedi cael y fath sylw gan bapurau Llundain.
Ar ol cyfarfod golgyddol cyflym i drafod dewis straeon a chyfweliadau, fe aeth pawb ati o ddifri. Dros y dair awr nesaf bu Aelodau, y Comisiynydd Iaith ac eraill yn mynd a dod wrth gael eu cyfwled a tharo mewn i weld y gwaith. Erbyn i bawb ymgynull am drafodaeth ar ddiwedd y dydd roedd llwyth o gynnwys yn barod ar lein a Trydar yn brysur hefyd. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd adroddiad yn cael ei baratoi i geisio canfod beth ddysgom ni fydd o help i greu mwy o newyddion lleol iawn fel hyn ac i gysylltu a chymunedau.
Yn y cyfamser, mae nifer o bethau eisioes yn glir:
- Mae’r Cynulliad yn frith o newyddion sydd yn bwysig a pherthnasol i gymunedau. Ychydig iawn sydd yn cael ei gyhoeddi;
- Mae na lawer mwy y gellid ei wenud i hwyluso gwell cyswllt rhwng ACau, ac eraill mewn awdurdod gyda newddion lleol iawn;
- Gallai creu a rhannu newyddion fel hyn gyfrannu at gau y bwlch democrataidd sy’n esgor o ddiffyg cyhoeddi, gwybodaeth a chraffu;
- Mae angen i rheiny sydd am hywyddo eu hachos feddwl am ymwenud yn hyrach na dweud os ydynt am fod yn berthnasol;
- Mae mwy i wneud er mwyn canfod sut i hwyluso’r llif o newyddion rhwng cyfundrefn genedlethol a chymunedau lleol fel rhan anatod o ddemocratiaith gref.
http://www.caerphillyobserver.co.uk
http://pennardcclife.blogspot.co.uk
http://www.roathcardiff.net
http://www.baytvswansea.co.uk/swansea/index.html