Bu pythefnos cyntaf y prosiect “I Am News” fel ffair, ac yn llawer o hwyl. Bu Stuart Sumner-Smith, Rheolwr Prosiect, Dave Berry, ein Harweinydd Prosiect Technegol, a minnau, Arweinydd Cynnwys y Prosiect, yn chwysu mewn swyddfa fach nad yw’n gweld fawr o olau dydd. Roeddem ni fel Morlociaid Ôl-Mileniwm yn cael ein gyrru i gyflawni gorchestion amhosibl bron, gan siart ymenyddol Gantt sy’n rheoli bywyd ein prosiect.
Gwireddwyd egin prosiect ‘I Am News’ gan Stu Sumner-Smith a ddaeth yn Rheolwr Prosiect, maes o law. Aethom ati ein dau, gyda chymorth eraill, i gyd-ysgrifennu’rcais am arian llwyddiannus ‘Pobl a Lleoedd’ – a wnaeth y prosiect yn bosibl. “Buom yn gweithio yn y gymuned am rai blynyddoedd yn hyrwyddo bandiau, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm ac yn rhoi cymorth gyda materion gwahanol yn y gymdeithas. Mae yna fôr o dalent yn Abertawe. Ond un peth mae Abertawe ei angen yw sefydliad sy’n canolbwyntio ar hybu’r dalent a’r materion nad yw sefydliadau newyddion eraill yn rhoi sylw iddyn nhw. Mae cryn dipyn o hanes cyfryngau Abertawe eisoes ar y we, ond dim byd tebyg i’r sylw y gallai sefydliad newyddion pwrpasol roi iddi.” Yn arwyddocaol, cenhedlwyd a chrëwyd ‘I Am News’ i ddarparu hyfforddiant anffurfiol gwerthfawr a chredadwy i’r rhai sy’n chwilio am gyfleodd dysgu y tu hwnt i addysg oedolion prif-ffrwd. Er, yn anad dim, fel y dywedodd Stu, mae ‘I Am News’ yn adrodd yr holl straeon am bobl Abertawe a thu hwnt ac yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi ganddyn nhw.
Tyfodd Swansea Music Art and Dance (Swansea MAD) o gynnig’ I Am News’, ac mae wedi bodoli yn Abertawe ers pum mlynedd. Bob yn dipyn, creodd gyfleuster ymarfer a recordio ar gyfer bandiau, a darparodd hyfforddiant yn y celfyddydau i lawer o gleientiaid lleol, gan gynnwys y sector statudol. Bu ein profiad fel gwirfoddolwyr gyda Swansea MAD yn gymorth gydag ysgrifennu’r cynnig; wedi sawl llwyddiant ariannu bach, roedd hi’n amlwg bod y sefydliad angen y sicrwydd a’r hylifedd mae cronfeydd ariannol sylweddol dros y tymor hir yn eu rhoi. Ar ôl wyth mis o gydweithio, fe anfonwyd y cais. Fe anghofiwyd amdano, ac yna, un diwrnod ym mis Ebrill, cawsom lythyr yn dweud y dyfernir y grant inni.
Rai misoedd yn ddiweddarach, wedi i’r sioc bylu, edrychais yn frysiog dros ein cais gorchestol gan ofyn i mi fy hun, “sut rydym yn gwneud hyn?” Rwy’n gwybod bellach: mynd ati fel lladd nadroedd.
Wel, mae’n mynd fel watsh. Mae ‘I Am News’wedi cael arian grant am dair blynedd. Ar 25 Medi, dechreuodd weithredu o swyddfeydd ar y Stryd Fawr, yng nghanol ardal adfywio greadigol a diwylliannol y ddinas. Cynhelir lansiad swyddogol ddiwedd Hydref, gydag arddangosiadau o’n desg newyddion rhithwir, ein hadnoddau amlgyfrwng, a’n cyfraniad at gerddoriaeth fyw barhaus.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal diwrnod o hyfforddiant yr wythnos, pryd y gall darpar wirfoddolwyr ymuno â’n rhaglen dreigl yn ei dyddiau cynnar o fodiwlau ar greu ffilmiau ac elfennau newyddiadurol fel ‘Beth sy’n Creu Newyddion Dinesig’,’Cyfryngau Newyddion Cymdeithasol’ a ’Golygu Aml-gamera Sylfaenol gyda Final Cut’. Mae yna weithgareddau grŵp lle mae gwirfoddolwyr, er enghraifft yn ffilmio ac yn golygu cyfweliad.
Mae llawer o waith rhwydweithio a datblygu o’n blaenau. Mae gwefan yn cael ei datblygu i ddangos gwaith ein tîm newyddion gwirfoddol sy’n ffurfio, a byddwn yn dechrau darlledu’n fyw ar sianel YouTube cyn hir. Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o ‘I am News’ ac eisoes mae’n her deilwng ac yn addysg. Daliwch i wrando a gwylio!
Am ragor o wybodaeth am ‘I am News’ a sut allwch chi gymryd rhan, ewch i Gwirfoddoli Cymru neu cysylltwch â Jeremy Gluck ar 01792 655019.