Ym mis Ionawr eleni, fe lwyddon ni i gyrraedd carreg filltir blwyddyn o ffrydio cyfarfodydd llawn o gyngor Telford a Wrekin. Dyma’n stori.
Un noson ym mis Ionawr 2013, trydarodd ffrind a chyd-flogiwr ar Lightmoor Life, Jake Bennett ddolen i ParliamentLive.tv a dywedodd yr hoffai wylio un o gyfarfodydd y cyngor – mor hawdd â hynny. Dywedodd Stephen Burrell, Cynghorydd Telford a Wrekin y byddai cyfarfod nesaf y cyngor yn cael ei gynnal ymhen rhai dyddiau, a bod wifi rhad ac am ddim yn y lleoliad. Fe’u gwahoddodd i ffrydio’r cyfarfod yn fyw.
Roeddem ni o’r farn bod hwn yn gyfle gwych i ddod â chymuned Telford yn nes at y bobl a bleidleisiodd drostynt i’w cynrychioli, ac i weld sut mae eu buddiannau’n cael eu cynrychioli yng nghyfarfodydd y cyngor. Yn annisgwyl, dangosodd hyn i gynghorwyr bod y cyhoedd wir yn poeni am benderfyniadau llywodraeth leol.
Cynigiais sianel Bambuser Lightmoor Life ar gyfer y ffrydio. Cysylltodd Jake â thîm cyfathrebu’r cyngor. Roedden nhw’n gymorth mawr. Mae protocol y cyngor yn caniatáu i’r cyhoedd wneud fideo, dynnu lluniau neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasu yng nghyfarfodydd llawn o’r cyngor. Gosododd Jake a minnau iPhone ar dreipod a meicroffon iRig ar ddesg i godi sain yr uchelseinyddion oedd uwch ein pennau. Yn ôl Bambuser, cawsom ragor na 100 o ‘welediadau’ byw, o’i gymharu â thua 4 o bobl, (roedd 3 yn swyddogion cyngor), yn gwylio o’r seddau i’r cyhoedd. Dros fis yn ddiweddarach, cafodd y fideo ragor na 300 ‘gwelediad’.
Trydarodd Jake negeseuon ar Twitter yn ystod y ffrydio, a chafwyd ymateb da. Gallwch ddarllen y sylwadau yn ein Storify yma .
Roedd tîm cyfathrebu’r cyngor wrth eu bodd gyda’r canlyniadau. Fe ddywedon nhw fod croeso i ni wneud yr un peth eto. Trydarwyd neges gan un o’r gwylwyr y noson honno, Jon Farmer a’n cyflwynodd i lwyfan gwahanol i Bambuser, sef y Google Hangouts. Penderfynodd Andy sy’n gyfrifol am Telford Live fynd i’r cyfarfodydd er mwyn trydaru arnynt. Yn y cyfarfod nesaf, fe ddefnyddion ni Google Hangouts on Air, ar gyfer saethu o safleoedd camera lluosog (gliniaduron a gwe-gamerâu). Unwaith mae’r digwyddiad wedi gorffen, mae’r fideo’n ymddangos yn awtomatig ar sianel YouTube Lightmoor Life, ac yn creu archif. Y gwendid o’n golwg ni oedd ansawdd y sain gan nad oedden ni wedi cysylltu â system PA’r lleoliad. Ym mis Mawrth 2013, gwnaeth Talk About Local roi sylw i’n defnydd arloesol o Google Hangouts.
Mae nifer wedi cysylltu â mi ar Twitter yn y gofod LocalGov. yn gofyn sut rydyn ni’n gwneud hyn, a sut y cawsom ganiatâd y cyngor. Ceisiodd un blogiwr hyperleol gael caniatâd ei gyngor, ond chafodd o fawr o lwc. Felly gofynnais i Nigel, o adran gyfathrebu cyngor Telford a Wrekin gysylltu â’r blogiwr hyperleol ac egluro’r manteision iddo – ac felly y bu. Bu hyn yn gymorth i’r blogiwr roi cyflwyniad gerbron eu cyngor. O’r diwedd, mewn cyfarfod diweddarach, dyma nhw’n pleidleisio i’w ganiatáu.
Dyma ni’n cysylltu â Chyngor Telford a Wrekin. Fe holwyd am ganiatad gan y ddau leoliad maen nhw’n eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, i gael ffrwd sain o’u systemau PA. Roedd y ddau leoliad yn barod i helpu a darparodd Andy oTelford Live ryngwyneb USB, er mwyn i ni allu cysylltu gliniadur i fyny i’r system sain, a bwydo’r sain i’r Google Hangout. Roedd hyn wrth fodd y gwylwyr gan fod ansawdd y darllediadau wedi gwella’n sylweddol. Yn ystod y flwyddyn, wrth i ymrwymiadau’n grŵp newid, mae Andy’n parhau i drydar o Telford Live. Daeth hefyd yn un o’n safleoedd i osod gliniadur a gwe gamera.
Yn ystod haf 2013, fe’n gwahoddwyd i gyhoeddiad papur gwyn ar ‘Best by West Midlands 2013’. Rhoddwyd sylw ynddo i Gyngor Telford a Wrekin, Lightmoor Life a Telford Live ’am ein gwaith yn ffrydio a thrydar cyfarfodydd llawn o’r cyngor’.
Ym mis Ionawr eleni, fe gyrhaeddon ni garreg filltir blwyddyn o ffrydio cyfarfodydd llawn o’r cyngor. Fe warion ni’n arian ein hunain ar brynu gwe-gamerau a chymysgwyr sain o safon dda. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cynghorwyr wedi dweud bod ffrydio’r cyfarfodydd wedi bod yn llwyddiant mawr. Fe basiwyd cynnig y dylai unrhyw gyfarfod o’r cyngor fod yn agored i’r cyhoedd ac rydym bellach yn darlledu cyfarfodydd llawn o’r cyngor.
Eleni, mae arweinwyr cynghorwyr ceidwadol a llafur wedi dweud wrthon ni eu bod yn gwerthfawrogi’n gwaith yn fawr, a’i fod yn ffordd wych o ymgysylltu â’r cyhoedd.
Fe’n gwahoddwyd gan y cyngor i ddarlledu eu cyflwyniad cyllideb mewn digwyddiad cyhoeddus. Yn ystod 12 mis o ddarlledu, roedd tipyn o bobl wedi dweud bod ymddygiad cynghorwyr yn ystod cyfarfodydd, wedi gwella.
Rydym yn cynllunio i ddarlledu digwyddiadau eraill. Cyn hir, byddwn yn darlledu rhaglen yn arddull Pawb a’i Farn, lle bydd cynghorwyr o bob plaid yn ateb cwestiynau a gyflwynwyd gan y cyhoedd trwy wefan Telford Live.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mark yn:
Maryland GovPics sy’n berchen ar hawlfraint y llun yma