Rwy’n ysgrifennu hwn yn eistedd ar drên ac mae pawb o fy nghwmpas sydd â ffôn clyfar neu lechen wedi defnyddio ap yn yr awr ddiwethaf. Mae dau fachgen ifanc (tua 8 oed) yn chwarae FIFA 14 ar iPad, mae merch yn gwylio Happy Valley ar iplayer, a gwraig yn darllen ap MailOnline tra bod dyn arall yn edrych ar ei e-bost. Mae defnyddio apiau i wneud rhai swyddogaethau ar-lein yn dod yn arfer cyffredin.
Felly pam wnaethom ni yn Blog Preston, cyhoeddwr hyperleol bach benderfynu lansio ap?
Dau reswm da. O edrych ar Google Analytics roedd yn amlwg bod canran yr ymwelwyr ar ddyfeisiau symudol a llechi’n cynyddu’n rhyfeddol o gyflym, yn arbennig o ddolenni i gyfryngau cymdeithasol.
Hefyd gofynnwyd i’n cynulleidfa go iawn a fydden nhw’n defnyddio ap Blog Preston ai peidio. Mewn ymateb, dywedodd y rhai oedd yn defnyddio Trydar a Facebook y bydden nhw’n bendant yn ei ddefnyddio. I mi mae fel rhedeg siop frechdanau, yn sydyn mae pawb yn dechrau prynu brechdanau caws, felly rydych yn rhoi arwydd yn dweud pleidleisiwch yma i ddweud pa fath arall o frechdan gaws y dylem ni ddechrau ei gwneud. Os nad ydych yn gwrando ar y gynulleidfa a rhoi’r hyn y maen nhw ei eisiau yna byddan nhw’n mynd i’r siop frechdanau arall i lawr y ffordd.
Mae creu ap ychydig yn fwy costus na brechdan (oni bai eich bod bob amser yn prynu cinio o Pret A Manger). Aethom ati i weld a oedd yn bosibl creu ap oedd heb fod yn rhy gostus. Bellach mae Blog Preston yn gwmni diddordeb cymunedol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r hyn yr ydym yn ei wneud a’i gynhyrchu fod er budd pobl Preston.
Ein prif nod oedd gallu sicrhau bod ein cynnwys presennol ar gael i gynulleidfa ap fel bod modd iddynt edrych ar Blog Preston pryd bynnag yr oedden nhw eisiau. Gwelwyd bod gwasanaeth o’r enw Como Mobile sy’n caniatáu i chi adeiladu ap am ddim ac mae 5 o bobl yn gallu ei lwytho i lawr. Gallwch ychwanegu Facebook, Trydar, YouTube, ac anfon stori, Flickr a nifer o opsiynau eraill. O fewn awr roedd gennym brototeip llawn a oedd yn gweithio ar ein ffonau a’n iPads.
Ble nesaf? Mae gennym berthynas waith dda gyda’r siambr fasnach leol, sy’n rhedeg Ardal Gwella Busnes Preston.
Roedd Ardal Gwella Busnes Preston yn fwy na bodlon cefnogi’r ap, a chawsom gyfraniad ganddynt tuag at gostau sefydlu’r ap. Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw mae modd i ni gael mynediad at eu cymorth marchnata a gallwn gysylltu’r ap â digwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y ddinas e.e. Llwytho’r ap i lawr, cyrchu tab talebion a’i ddangos ar stondin yn ystod digwyddiad i gael pryd arall am hanner pris wrth dalu’n llawn am un pryd. Mae’n ddull mesuradwy o farchnata iddyn nhw, mae modd i ni lwytho’r ap i lawr ac mae mantais i’r gynulleidfa.
Cyn lansio roedd yn rhaid i ni ddysgu am gynnwys ar gyfer apiau. Nid yw bob cynnwys e.e. map Google, yn gweithio o fewn yr ap. Er enghraifft, roedd angen i’n stori am gyflwyno system tramiau yn ninas Preston gael dolen yn eu cyfeirio at y map fel y gall defnyddwyr ap glicio a gweld y map os ydyn nhw eisiau. Hefyd mae angen i chi wneud yn siŵr bod y cynnwys wedi ei ysgrifennu mewn ffordd sy’n dal i wneud synnwyr os yw’n cynnwys cyfrwng rhyngweithiol. Os nad yw’n gwneud synnwyr, dylech ai hailysgrifennu neu dynnu’r cynnwys o’r ap.
Buasem wedi gallu gwario miloedd o bunnoedd i sicrhau bod popeth yn gweithio wrth gael ei blannu yn y cynnwys ond buasem yn fethdalwyr pe buasem wedi gwneud hynny ac ni fyddai’r ap wedi ei lansio tan 2017. Roeddem eisiau cynnig rhywbeth i weld ymateb y gynulleidfa.
A sôn am ymateb. Llwythwyd yr ap i lawr 350 o weithiau yn y pedwar diwrnod cyntaf, sylwadau gwych ar gyfryngau cymdeithasol ac adolygiadau cadarnhaol iawn ar yr App Store. O edrych ar y data mae’n amlwg bod gennym set reolaidd o ddarllenwyr ap yn barod.
A dyna hanfod y syniad, rydym eisiau i’r arferiad o edrych ar Blog Preston ddod yn arferiad dyddiol ac rydym yn hwyluso hynny trwy gynnig ein ap i bobl Preston. Nid yw’n elfen hanfodol o safle hyperleol, ond mae’n ffordd wych i greu cynulleidfa deyrngar.
Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol ar edwalker.net. Darllenwch y post gwreiddiol yma. Mae hawlfraint y llun gyda’r erthygl hon yn eiddo i Paul Melling.