I rywun fel fi sy’n gyfan gwbl ddwyieithog ac a dyfodd i fyny yn siarad ac yn cael fy addysgu yn Gymraeg, mae’n gyffrous gweld pa mor hawdd mae ieithoedd yn cyfnewid a’r amrywiaeth o wasanaethau iaith sydd ar gael ar y radio. Cafodd Saesneg ei mabwysiadau fel yr iaith genedlaethol, ar ôl annibyniaeth, ond roedd Affricaneg yn ei dro wedi cymryd lle Almaeneg. Mae Namibia yn gartref i nifer sylweddol o grwpiau ethnig, rhai ohonyn nhw’n perthyn yn agos at ei gilydd. Mae rhan fwyaf o’r grwpiau yn arddel eu hiaith eu hunain. Mae deg iaith wedi’i chynnwys gan Corfforaeth Ddarlledu Namibia (NBC)ac mae Llywodraeth Namibia yn amcangyfrif mae’r iaith frodorol sy’n cael ei siarad fwyaf yw Oshiwambo.
Mae UNAM yn awyddus iawn i wybod sut mae Cymru wedi atal y gostyngiad yn y gyfran o siaradwyr Cymraeg ac wedi datblygu addysg a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n cwrdd Deon y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Kingo Mchomu, a astudiodd yn Aberystwyth ar adeg pan fu llawer o brotestiadau sifil yma ynglŷn â’r iaith. Mae’n fy nghyflwyno i Jekura Kavari, darlithydd yn Otjihereroac iLevi Namaseb sy’n addysgu Namara a Damara (sydd bellach yn cael eu galw Kwekwe ar y cyd ), sy’n perthyn yn agos iawn at ieithoedd ‘clic’. Dioddefodd y ddau grŵp hwn dan reolaeth drefedigaethol yr Almaen. Roedd y cyflafanau hirfaith a gafwyd dan yr Almaenwyr yn Herero yn arbennig wedi haneru eu poblogaeth a daeth i gael ei adnabod fel hil-laddiad cyntaf yr ugeinfed ganrif. Rwy’n darganfod fod y niferoedd o bobl ifanc sy’n dymuno astudio yn eu mamiaith yn fach iawn ac fod y mater o ysgogiad a balchder yn cael ei drafod yn hir iawn. Rwy’n dweud wrthynt am ddull y Coleg Cymraeg, ac am ein gwaith addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymestyn allan drwy’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol. Rydym yn diffinio nifer o syniadau ymchwil i fynd yn ôl i Ysgol y Gymraeg yn ogystal ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC).
Gyda chydweithwyr o’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfathrebu rwyf yn nodi nifer o feysydd ar gyfer cydweithredu a gwaith yn y dyfodol. Maent yn cynnwys cyfathrebu digidol ac yn symud ymlaen y defnydd o gyfryngau digidol a chymdeithasol mewn newyddiaduraeth; cyfathrebu materion datblygu iechyd mewn cydweithrediad â’r Ysgol Feddygol; cyfryngau ac addysg ieithoedd lleiafrifol; a rheoli’r cyfryngau a modelau busnes sy’n dod i’r amlwg, gyda dolen i MBA Rheolaeth y Cyfryngau yng Nghaerdydd. Samra Aochamus, a astudiodd ar gyfer MA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol yn yr Ysgol newyddiaduraeth (JOMEC), cwrs mae hi’n rhoi clod iddo am ei gosod ar lwybr tuag at redeg ei chwmni cysylltiadau cyhoeddus llwyddiannus ei hun yn ogystal â’r byd academaidd, fydd fy mhrif gyswllt ar ôl i mi ddychwelyd. Gyda’n gilydd, byddwn yn dechrau rhoi’r cynlluniau ar waith.
Yn y prynhawn mae Samra yn fy nghymryd i bencadlys y gorfforaeth ddarlledu, NBC. Yn ogystal â’r deg gorsaf radio mewn gwahanol ieithoedd mae NBC yn cynnal tair gorsaf deledu. Mae Sianel Dau wedi’i neilltuo i newyddion a materion cyfoes, gan gynnwys darlledu byw o’r Senedd. Pan oeddem yna, roedd Nahas Angula, yn cael ei gyfweld ar gyfer rhaglen ddogfen.
Wedi’i sefydlu yn fuan ar ôl annibyniaeth roedd NBC tan yn ddiweddar iawn yn wynebu argyfwng ariannol a rhaglennu difrifol. Mae Prif Swyddog Gweithredu a Chadeirydd newydd wedi newid ei ffawd ariannol ac maent nawr yn canolbwyntio ar adolygu’r cynnwys ac ar sicrhau newid i ddigidol yn llwyddiannus yn 2015. Mae gan yr ystafell newyddion yma tua 20 i 30 o newyddiadurwyr gydag eraill mewn mannau o amgylch y wlad enfawr hon. Mae NBC wedi cynyddu cynnwys rhanbarthol mewn newyddion a materion cyfoes, ac mae yn y broses o fuddsoddi mewn sefydlu gallu graffeg newydd. Mae Ricardo, sy’n ei dangos o gwmpas ac sy’n cyflwyno sioeau radio a rhaglen newyddion ar y teledu yn y boreau, hefyd nawr yn gyfrifol am lansio gorsaf radio fasnachol newydd. Hon fydd ail orsaf drwy gyfrwng y Saesneg gan NBC a bydd yn darlledu adloniant a cherddoriaeth, gan adael yr orsaf wreiddiol i ganolbwyntio ar y gair llafar.
Fel llawer o bethau eraill yn Namibia – mae cymaint wedi’i wneud, ond mae cymaint ar ôl i’w wneud o hyd.