Mae Tongwynlais.com yn ddyflwydd oed yr haf hwn. Mae’n anhygoel meddwl fy mod i wedi bod yn ysgrifennu blog am gyhyd. Cyn hynny, roedd fy sgiliau ysgrifennu wedi’i gyfyngu i’r rhestr siopa wythnosol.
Fy syniad gwreiddiol oedd creu gwefan dwristiaeth. Fy mwriad oedd ychwanegu ychydig o wybodaeth sylfaenol am y pentref a rhannu rhywfaint o luniau. Ond, fe sylweddolais yn fuan y byddwn angen cynnwys ffres er mwyn denu pobl yn ôl at y wefan ac y byddai’n gallu bod yn adnodd defnyddiol i drigolion. Yna dechreuais feddwl am greu cymuned er mwyn galluogi pobl i gysylltu â’i gilydd.
Nid oeddwn wedi dod ar draws y term “Newyddiadurwr y Gymuned”, y cyfan roeddwn i’n dymuno ei wneud oedd dangos i bobl pa mor wych yw’r pentref sydd gennym, a darparu cymuned ar-lein. Felly, fe ddechreuais y wefan gyda nod syml, “Rhoi llais i breswylwyr Tongwynlais a hyrwyddo’r pentref.”
Dros y misoedd cyntaf fe ddechreuais ysgrifennu erthyglau oddeutu unwaith yr wythnos a rhannu gwybodaeth ychydig yn fwy rheolaidd ar safleoedd y cyfryngau cymdeithasol. Bûm yn ofalus wrth wneud yn siŵr nad oeddwn am weithio ar y wefan ar raddfa mwy nag y gallwn ei chynnal. Fe ddechreuais gysylltu â phobl leol i wybod beth oedd yn digwydd ac er mwyn meithrin cysylltiadau.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf fe ofynnodd disgybl ysgol gynradd i mi ei helpu i drefnu digwyddiad i godi sbwriel yn y pentref. Gyda chymorth ei theulu, fe lwyddom i gael yr offer, hyrwyddo’r digwyddiad ac roeddem yn hapus dros ben gyda’r dyrfa a ddaeth allan i helpu. Er mai digwyddiad bach oedd hwn, fe wnaeth i mi sylweddoli fod y prosiect yn ateb y diben.
Ddiwedd y llynedd, awgrymwyd datblygu darn o dir ger y neuadd bentref, ac mae llawer o’r preswylwyr yn ei wrthwynebu. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ar y cyd â grŵp cymunedol ar arolwg er mwyn casglu barn y preswylwyr ar y mater. Rwyf wedi helpu’r grŵp i drefnu digwyddiadau a chyhoeddi canlyniadau’r arolwg. Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno’n ddiweddar felly mae’r grŵp yn aros i weld a gaiff y cais ei gymeradwyo ai peidio. Yn y cyfamser, rydym yn dod at ein gilydd yn rheolaidd i drafod datblygiadau eraill yn y gymuned.
Y peth gorau yn sgil dechrau’r wefan yw cael y cyfle i gwrdd â phobl y pentref na fyddwn wedi dod ar eu traws fel arall. Rwyf wedi dod i adnabod cymaint o bobl sy’n aberthu eu hamser i’r gymuned, ac mae hi’n bleser helpu mewn rhyw fodd drwy hyrwyddo eu grwpiau a’u digwyddiadau.
Rwy’n ysgrifennu’n fwy rheolaidd eleni ac mae traffig y safle’n tyfu’n gyflym. Mae nifer o fusnesau lleol wedi noddi’r wefan ac mae tipyn o gwmnïau mwy o faint wedi ymholi ynghylch hysbysebu a hyrwyddo. Cyrhaeddodd y wefan restr fer categori “Blog Cymunedol Gorau” yng Ngwobrau Blogiau Cymru yn ddiweddar, a fu’n gyfle gwych i gwrdd â chyd-flogwyr a hyrwyddo Tongwynlais.
Mae hi’n amser cyffrous i fod yn rheng flaen newyddiaduraeth yn y gymuned, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf.