Bydd y gyfrol nesaf o’r Caerphilly Observer, a gyhoeddir ar 18 Medi, yn dathlu 16 mis o argraffu a bu’n 16 mis prysur.
Dechreuodd y Caerphilly Observer fel cyhoeddiad ar-lein yn 2009 ac ers hynny rydym wedi ehangu gan gyrraedd miloedd o ddarllenwyr.
Bob pythefnos rydym yn argraffu 10,000 o gopïau o’r papur newydd, a ddosbarthir i ryw 80 o werthwyr ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Yn ystod y mis diwethaf bu i’n gwefan ddenu 66,262 o ymwelwyr unigryw, yr uchaf erioed gan greu 170,000 o argraffiadau tudalennau – llwyddiant anhygoel yr ydym mor falch ohono.
Ym mis Mai’r llynedd buom yn llwyddiannus wrth ymgeisio am grant drwy raglen datblygu gwledig y cyngor, Caerffili Cwm a Mynydd. ’Galluogodd y grant i ni gychwyn cyhoeddir papur newydd a heb gymorth Phill Loveless o’r cyngor, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.
Gofynnwyd cwestiynau gan y diwydiant cyfryngau ehangach ar yr adeg, yn benodol a allem ddal y cyngor yn atebol yn gyfreithiol – o ystyried y cawsom gymorth ganddynt i gychwyn y fenter.
Profodd ein hymdriniaeth o’r cyngor yn y papur nad oes arnom ofn gofyn y cwestiynau anodd.
Cytunodd y beirniaid yng Ngwobrau Papurau Newydd eleni gan ddyfarnu cymeradwyaeth uchel i’r papur gan ddod yn ail yn y Categori Arloesi Argraffedig y Flwyddyn.
Yn ôl y feirniadaeth: “Gyrrir newyddiaduraeth safonol gan angerdd gwirioneddol i gynrychioli’r ardal leol a’r grym i graffu.”
Mae gwleidyddion lleol o bob parti wedi dweud wrthym gymaint maent yn gwerthfawrogi’r craffu hwn ac roedd cael ein cydnabod gan gyfoedion yn y diwydiant yn foment o falchder sylweddol i ni.
Roeddem yn falch iawn hefyd pan gawsom ein henwi yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Fforwm Busnes Caerffili 2013.
Uchafbwynt arall oedd llythyr o Balas Buckingham ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines, a ddymunodd yn dda i ni wrth i ni gwblhau ein blwyddyn gyntaf o argraffu ym mis Mai. Roedd hyn yn sgil ’ei hymweliad i’r fwrdeistref sirol.
Ym mis Hydref y llynedd bu i ni symud i mewn i swyddfeydd ym Mharc Busnes Caerffili ac ym mis Chwefror ymunodd y gohebydd Gareth Hill â’r tîm.
Daeth cam mawr arall ym mis Mehefin wrth gyflogi ein gweithredwr gwerthiant amser llawn cyntaf, Neil Jenkins.
Ynghyd â’r ymgynghorydd cyfryngau Jan Withers a’i gŵr Barry, a fu mor ddylanwadol wrth roi cymorth i ni sefydlu’r gyfrol argraffedig, bellach mae gennym dîm eithriadol o gryf i’r dyfodol er mwyn sicrhau bod papur newydd a gwefan Caerphilly Observer o’r safon y mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ei haeddu.
Ni fu popeth yn hawdd serch hynny. Bu rhai cyfnodau heriol ac adegau pan fu bron i ni fethu cyrraedd y nod mewn da bryd, ond ar y cyfan llwyddwyd i oroesi.
Mae’r Caerphilly Observer yn cadw hawlfraint y lluniau sy’n atodol i’r erthygl hon.